Awyren
Awyren yw unrhyw gerbyd sy'n medru hedfan trwy'r awyr, gan ddefnyddio'r awyr i'w cynnal eu hunain a pheiriant i'w yrru. Nid yw roced, ar y llaw arall, yn cael ei chynnal gan yr awyr o'i chwmpas ac felly, nid yw'n awyren.
Fel rheol, defnyddir y gair "awyren" am beiriant sy'n drymach na'r aer o'i gwmpas ac sy'n defnyddio pwer. Mae balŵn yn ysgafnach na'r aer o'i chwmpas, ac felly nid yw'n dibynnu ar bwer i'w chadw yn yr awyr. Rhaid i awyren sy'n drymach na'r aer o'i chwmpas fedru gwthio'r aer tuag i lawr, gan gynhyrchu adwaith sy'n gwthio'r awyren ei hun tuag i fyny. Mae'n hanfodol hefyd fod siap yr awyren, o ran aerodynameg yn gywir i leihau ffrithiant.
Y dulliau arferol o wthio'r aer tuag i lawr yw un ai adenydd sefydlog, sy'n cadw'r awyren yn yr awyr oherwydd ei bod yn symud ymlaen, neu "adenydd" sy'n troi yn eu hunfan, megis ar hofrennydd.
Cynnwys |
Damweiniau[golygu]
Yng Nghymru[golygu]
Y ddwy ddamwain awyren waethaf yng Nghymru ydyw Tresigin a Chwm Carno. Mae'r tirwedd - mynyddoedd uchel - yn golygu cymylau isel, ac mae hyn wedi achosi llawer o fân ddamweiniau. Ymhlith damweiniau cyfnod yr Ail Ryfel Byd, un o'r gwaethaf oedd honno ger Abermaw, ar 8 Mehgefin 1945 pan syrthiodd B-17 Fortress Americanaidd gan ladd 20 o filwyr. Cafwyd damwain hefyd yn 1953 yn Wrecsam ar 8 Ionawr 1953 pan disgynnodd Boeing Washington (awyren fomio) gan ladd 10 criw o ddeg.
Ledled y byd[golygu]
Dyma restr o'r damweiniau gwaethaf yn ôl y niferoedd a fu farw:
- 583 – Maes awyr Teneriffe, (Tenerife, 1977)
- 520 – Hedfaniad 123, Japan Airlines, (Japan, 1985)
- 349 – Dwy awyren Charkhi Dadri, (India, 1996)
- 346 – Hedfaniad 981 Turkish Airlines, (Paris, 1974)
- 329 - Hedfaniad 182 Air India, (Cefnfor yr Iwerydd, De Iwerddon, 1985)
- 302 – Ilyushin Il-76, (Iran, 2003)
- 301 – Hedfaniad 163 Saudia, (Riyadh, 1980)
- ~300 –Air Africa Antonov An-32, (Kinshasa, 1996)
- 290 – Hedfaniad 655 Iran Air, (Persian Gulf, 1988)
- 273 – Hedfaniad 191 American Airlines, (Chicago, 1979)