Martin Bormann

Oddi ar Wicipedia
Martin Bormann
Ganwyd17 Mehefin 1900, 17 Gorffennaf 1900 Edit this on Wikidata
Halberstadt Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1945 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Natsïaidd, Gweriniaeth Weimar, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ffermwr, person milwrol, Nazi Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Reichstag of Nazi Germany Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
PriodGerda Bormann Edit this on Wikidata
PlantMartin Adolf Bormann Edit this on Wikidata
PerthnasauWalter Buch Edit this on Wikidata
Gwobr/auBathodyn y Parti Aur, Blood Order, NSDAP Long Service Award, Reichsführer-SS, Honour Chevron for the Old Guard, SS-Ehrenring Edit this on Wikidata
llofnod

Un o brif arweinwyr y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen oedd Martin Ludwig Bormann (17 Mehefin 1900 – efallai 2 Mai 1945). Daeth yn bennaeth Cangelloriaeth y Blaid (Parteikanzlei), ac yn ysgrifennydd preifat i Adolf Hitler, swydd oedd yn rhoi grym mawr iddo.

Ganed Bormann yn Wegeleben, ger Halberstadt. Gadawodd yr ysgol yn ieuanc i weithio ar fferm, yna wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rheolwr ystad yn Mecklenburg, lle daeth i gysylltiad a'r Freikorps. Yn 1924, carcharwyd ef am flwyddyn am helpu ei gyfaill Rudolf Höss (yn ddiweddarach pennaeth gwersyll difa Auschwitz) i lofruddio Walther Kadow. Ymunodd a'r Blaid Natsïaidd yn 1925 wedi ei ryddhau o'r carchar. O 1933 hyd 1941, bu Bormann yn ysgrifennydd preifat i Rudolf Hess, dirprwy Hitler.

Wedi i Hess hedfan i'r Alban ym Mai 1941, daeth Bormann yn bennaeth Cangelloriaeth y Blaid (Parteikanzlei). Daeth i gael dylanwad mawr ar Hitler, oedd yn ymddiried yn llwyr ynddo. Roedd Bormann ym Merlin gyda Hitler ddiwedd ebrill, pan oedd byddin yr Undeb Sofietaidd ar fin cipio'r ddinas. Idliwyd y ddinas iddynt ar 2 Mai. Yn ôl un fersiwn gan Artur Axmann, lladdwyd Bormann wrth iddo geisio dianc.

Gan nad oedd sicrwydd a oedd yn fyw ai peidio, rhoddwyd ef ar ei brawf yn ei absenoldeb ym mhrif brawf Treialon Nuremberg, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Bu sibrydion ei fod wedi dianc i Dde America, ond yn 1998, cyhoeddwyd fod profion ar benglog oedd wedi ei darganfod ym Merlin yn 1972 wedi dangos mai penglog Bormann ydoedd.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: