Auschwitz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y porth i mewn i Auschwitz I. Mae'r geiriau uwchben y giat yn dweud Arbeit macht frei ("Mae gwaith yn rhyddhau")

Auschwitz oedd y mwyaf o wersylloedd difa y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd; yma y lladdwyd canran uchel o'r rhai a laddwyd yn yr Holocost. Roedd rhan ohono hefyd yn wersyll crynhoi. Cymer ei enw o'r dref gyfagos, Oświęcim mewn Pwyleg, Auschwitz mewn Almaeneg. Mae'r dref tua 50 km i'r dwyrain o Kraków a 286 km o Warsaw.

Roedd tri prif wersyll: Auschwitz I, y ganolfan weinyddol; Auschwitz II (Birkenau), y Vernichtungslager neu wersyll difa; ac Auschwitz III (Monowitz), gwersyll gwaith. Sefydlwyd Auschwitz I ar 20 Mai, 1940, a dechreuwyd adeiladu Auschwitz II (Birkenau) yn Hydref 1941. Mae rhywfaint o ansicrwydd faint yn union o bobl a laddwyd yn Auschwitz. Tystiodd pennaeth y gwersyll, Rudolf Höss i hyd at 2.5 miliwn farw, ond y farn gyffredinol yn awr yw i rhwng 1.1 miliwn a 1.6 miliwn gael eu lladd. Lladdwyd y mwyafrif yn y siamberi nwy yn Birkenau, gan ddefnyddio nwy Zyklon-B.

Mae Auschwitz I ac Auschwitz II wedi eu dynodi fel Safle Treftadaeth y Byd.


Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of Poland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Pwyl. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill