Kraków

Oddi ar Wicipedia
Kraków
Mathdinas gyda grymoedd powiat, dinas fawr, dinas Hanseatig, prifddinas, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
Poblogaeth804,237 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Unknown (cyn 8 g) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJacek Majchrowski Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Pwyleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLesser Poland Voivodeship Edit this on Wikidata
SirLesser Poland Voivodeship Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Arwynebedd327 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr219 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Vistula Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSir Kraków, Sir Wieliczka, Sir Proszowice, Gmina Zielonki, Gmina Michałowice, Lesser Poland Voivodeship, Gmina Kocmyrzów-Luborzyca, Gmina Koniusza, Gmina Igołomia-Wawrzeńczyce, Gmina Niepołomice, Gmina Wieliczka, Gmina Świątniki Górne, Gmina Mogilany, Gmina Skawina, Gmina Liszki, Gmina Zabierzów, Gmina Wielka Wieś Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.0614°N 19.9372°E Edit this on Wikidata
Cod post30-001 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholKraków City Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Kraków Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJacek Majchrowski Edit this on Wikidata
Map

Ail ddinas fwyaf Gwlad Pwyl ac un o'i dinasoedd hynaf yw Kraków neu yn Gymraeg Cracof.[1] Fe'i lleolir ger Afon Wisła ac mae'n dyddio o'r 7c. Yn draddodiadol, mae Kraków wedi bod yn un o ganolfannau bywyd diwylliannol, academaidd a chelfyddydol blaenaf Gwlad Pwyl ynghyd â bod yn ganolbwynt economaidd. Bu prifddinas Gwlad Pwyl rhwng 1038 a 1569; y Gymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd rhwng 1569 a 1596; Dinas Rydd Kraków rhwng 1815 a 1846; Archddugiaeth Cracow rhwng 1846 a 1918; a Foifodiaeth Kraków rhwng y 14g hyd at 1990. Bellach, mae'n brifddinas Foifodiaeth Pwyl Fechan.

Mae'r ddinas wedi tyfu o fod yn anheddfa Oes y Cerrig i fod yn ail ddinas bwysicaf Gwlad Pwyl. Dechreuoedd fel pentrefan ar ben Bryn Wawel a cheir adroddiadau iddi fod yn ganolfan fasnachu bwysig Ewrop Slafonig erbyn 965. Sefydlwyd prifysgolion newydd a sefydliadau diwylliannol yn sgil dyfodiad yr Ail Weriniaeth Bwylaidd yn 1918 a thrwy gydol yr 20g gan gadarnhau lle Kraków fel canolbwynt bywyd gwâr o bwysigrwydd gwladol. Erbyn heddiw, mae gan y ddinas boblogaeth o 760, 000 ac mae rhyw 8 miliwn o bobl yn byw o fewn radiws o 100 km i'r sgwâr canolog.

Wedi Goresgyniad Gwlad Pwyl ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, daeth Kraków yn brifddinas y Llywodraeth Gyffredinol Almaenig. Ysytriedid y Pwyliaid a'r Iddewon yn is-ddynol ac yn is-raddol gan y gorchfygwyr a chaent eu herlid; bwriadwyd eu difa yn y pen draw. Symudwyd y boblogaeth Iddewig i ardal amgaerog o'r ddinas a elwid yn Ghetto Kraków, ac ohoni y danfonasant hwy i wersylloedd crynhoi a gwesylloedd difa megis Auschwitz, a saif ar gyfyl Kraków.

Yn 1978 fe etholwyd Karol Wojtyła, Archesgob Kraków, i'r Babaeth fel Pab Ioan Pawl II— y Pab Slafaidd cyntaf erioed a'r tro cyntaf i Bab o wlad arall heblaw am yr Eidal cael ei ethol am 455 blynedd. Yr un flwyddyn, cymeradwyodd UNESCO y Safleoedd Trefdadaeth y Byd cyntaf, gan gynnwys yn eu mysg Hen Dref Kraków yn ei chyfanrwydd. Ystyrir Kraków heddiw yn ddinas o arwyddocâd rhyngwladol ac yn un o ddinasoedd harddaf Ewrop.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]