Caeredin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Caeredin
EdinburghMontage.png
City of Edinburgh in Scotland.svg
Lleoliad yn yr Alban
Gwlad Yr Alban
Llywodraeth
Daearyddiaeth
Uchder 47 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 482640 (Cyfrifiad 2012)
Dwysedd Poblogaeth 1828 /km2
Metro 817800
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser GMT (UTC),

Haf: BST (UTC+1)

Gwefan http://www.edinburgh.gov.uk
Caeredin yn yr Alban

Prifddinas yr Alban er 1492 yw Caeredin (Gaeleg: Dùn Èideann Saesneg: Edinburgh). Mae hi ar arfordir dwyreiniol y wlad ac ar lan deheuol y Firth o Forth. Yma mae Senedd yr Alban, a gafodd ei hail-sefydlu ym 1999. Gyda phoblogaeth o 495,360 in 2011 (cynnydd o 1.9% ers 2010),[1] dyma'r ddinas fwyaf yn Lothian a saif yng nghanol ardal boblog sy'n cynnwys odeutu 850,000 o drigolion.[2]

Mae Dinas Caeredin yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'r ddinas yn enwog am Ŵyl Caeredin, ei chastell hond a'r dathliadau Hogmanay.

Mae enw'r ddinas yn dod o'r Frythoneg Din Eidyn, sef Caer Eidyn. Safai un o amddiffynfeydd y Gododdin ar y lle, efallai yn perthyn i'r brenin Clydno Eiddin, yng nghanol y chweched ganrif. Ar ôl ei goresgyn gan y deyrnas Seisnig Bernicia newidiwyd yr enw i Edin-burh, efallai gyda dylanwad enw Edwin, brenin Northumbria. Ond ni lwyddodd yr Eingl-Sacsoniaid i ymsefydlu dim pellach i'r gogledd na Chaeredin, ac erbyn y ddegfed ganrif 'roedd y Saeson wedi colli gafael ar yr ardal hon i frenhinoedd yr Alban.

Hanes[golygu]

Mae Prince's Street Gardens yn ffordd fawr trwy ganol y ddinas. I'r de i'r ffordd hon mae Castell Caeredin a adeiladwyd uwchben craig clogwyn basalt, sydd yn hen losgfynydd, a'r Hen Dref (Old Town). I'r gogledd i'r ffordd mae Princes Street a'r Dref Newydd (New Town). Dechreuwyd adeiladu Princes Street Gardens ym 1816 ar safle gwern o'r enw Nor Loch a oedd yn llyn cyn hynny.

Roedd safle'r castell yn gaer naturiol, ac mae'r lle wedi cael ei ddefnyddio ers diwedd Oes yr Efydd (tua 850 CC).

Yn ôl adroddiadau Rhufeinig o'r ganrif 1af, roedd gan llwyth y Votadini (Gododdin yr Hen Ogledd) eu canolfan yno ac mae cerdd arwrol o'r enw 'Y Gododdin' (tua 600), a briodolir o'r bardd Aneirin, yn sôn am ryfelwyr yn gwledda yn Neuadd Fawr Din Eidin (Caeredin), wedi cael eu gwahodd yno gan y brenin Mynyddog Mwynfawr.

Hyd heddiw, mae llawer o strydoedd canoloesol a hen adeiladau yn yr Hen Dref. Mae yna lu o strydoedd cul o'r enw close neu wynd a sgwarau i gynnal marchnadoedd. Yn ystod y 1700au roedd tua 80,000 o bobl yn byw yn yr Hen Dref gyda wal cryf o'i chwmpas, ond does dim ond 4,000 yn byw yno heddiw. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r Hen Dref a'i hadeiladau uchel gan dân ym 1824. Bu tân mawr arall ar 7 Rhagfyr, 2002, a ddinistriodd ardal Cowgate o'r Hen Dref, gan gynnwys Llyfrgell AI a rhai o adeiladau eraill Prifysgol Caeredin.

Dechreuwyd adeiladu'r Ddinas Newydd yn ystod y ddeunawfed ganrif ac mae hi'n enghraifft dda iawn o gynllun tref a phensaernïaeth Sioraidd.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

Enwogion[golygu]

Gefeilldrefi[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Caeredin
yn Wiciadur.