Palas Holyrood
Sefydlwyd Palas Holyrood, neu'n swyddogol Palas Tŷ Holyrood, fel mynachlog gan David I, brenin yr Alban yn 1128, ac mae wedi gwasanaethu fel prif gartref brenhnoedd a brenhinesau'r Alban ers yr 15fed ganrif. Safai'r palas ar ben y Filltir Frenhinol yng Nghaeredin. Palas Holyrood yw cartref swyddogol Elizabeth II yn yr Alban; mae hi'n treulio amser yn y palas ar ddechrau'r haf.
Daw'r enw Holyrood o Seisnigeiddio'r gair Sgoteg Haly Ruid (Croes Sanctaidd).
Cynnwys |
Abaty [golygu]
Mae adfeilion abaty Awgwstinaidd ar dir y palas, adeiladwyd hi yn 1128 yn ôl gorchymyn Brenin David I yr Alban. Bu'n safle nifer o goroniadau a phriodasau brenhinol. Disgynodd tô'r abaty yn ystod yr 18fed ganrif, gan ei adael yn y cyflwr y mae heddiw.
Addaswyd yr Abaty'n gapel ar gyfer Urdd yr Ysgallen gan y brenin Iago VII, ond dinistrwyd hi gan y dorf. Yn 1691 cymerodd Kirk of the Canongate le'r Abaty fel yr eglwys plwyf leol; dyma lle mynycha'r frenhines wasanaethau pan fydd yn aros yn y palas.
Palas [golygu]
Cartref Mari I, brenhines yr Alban, oedd y palas yn y 16eg ganrif. Yn y palas, yn 1565, bu farw David Rizzio, ysgrifennydd y brenhines, wedi llofruddio gan yr Arglwydd Darnley, priod Mari, a'i ffrindiau.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Ceidwad Tŷ Holyrood [golygu]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) "The Royal Residences: The Palace of Holyroodhouse"
- (Saesneg) "Holyrood Sanctuary"
- (Saesneg) Channel4.com - "Big Royal Dig"
- (Saesneg) "Edinburgh Architecture - The Royal Mile"
- (Saesneg) "An historical timeline of The Palace of Holyroodhouse"