Lothian

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
ScotlandLothian1974.png

Rhanbarth traddodiadol yn ne-ddwyrain yr Alban yw Lothian (Gaeleg: Lodainn). Saif rhwng Moryd Forth a Bryniau Lammermuir. Mae'r ardal yn awr wedi ei rannu rhwng cynghorai Caeredin, Gorllewin Lothian, Mid Lothian a Dwyrain Lothian. Heblaw dinas Caeredin, mae'r prif drefi yn cynnwyd Livingston, Linlithgow, Bathgate a Dunbar.

Daw'r enw yn draddodiadol o enw'r brenin Brythonig Loth neu Lot. Roedd ar un adeg yn rhan o'r Hen Ogledd, yna fel rhan o deyrnas Brynaich daeth yn eiddo i'r Eingl-Sacsoniaid. Erbyn y 7fed ganrif, roedd yn rhan o deyrnas Northumbria.

Yn ddiweddarch, fe'i rhannwyd yn West Lothian, Midlothian ac East Lothian. Rhwng 1975 a 1996, roedd yr ardal dan Gyngor Rhanbarthol Lothian.