Caer
- Mae'r erthygl yma am y ddinas yn Lloegr. Am ystyron eraill, gweler Caer (gwahaniaethu)
Dinas yng ngogledd orllewin Lloegr a chanolfan weinyddol (tref sirol) Sir Gaer yw Caer (Saesneg: Chester). Mae hi ar lan ddwyreiniol Afon Dyfrdwy, yn agos iawn i ffin Cymru. Mae ganddi boblogaeth o 80,121 (Cyfrifiad 2001). Mae muriau'r ddinas ymysg y gorau ym Mhrydain a cheir nifer o dai hynafol o ddiwedd yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid yng nghanol y ddinas. Ers blynyddoedd mae Caer yn enwog am ei chae rasus ceffylau, ar gyrion y dref.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Mae'r ddinas wedi tyfu o gwmpas safle'r hen gaer Rufeinig Deva. Roedd hi'n ganolfan bwysig i lengfilwyr Rhufain, a dangosir hyn yn yr hen enw ar y dre - 'Caerllïon Fawr' - a oedd yn gartref am gyfnod hir i'r lleng Legio XX Valeria Victrix. Mae rhai yn credu, oni bai am ddirywiad a chwymp yr ymerodraeth Rufeinig, y gallai Caer fynd yn brifddinas y Brydain Rufeinig ac yn ganolfan i'r Rhufeiniaid fentro dros y môr i Iwerddon.
Ar ôl ymadawiad byddinoedd Rhufain, mae'n debyg i Gaer ddod yn rhan o deyrnas Powys, ond 'roedd yr Eingl-Sacsoniaid yn dod yn nes. Ymladdwyd Brwydr Caer tua'r flwyddyn 615 rhwng lluoedd y Brythoniaid a lluoedd Æthelfrith, brenin Deira (wedyn Northumbria). Aeth y fuddugoliaeth i'r Saeson, ac o hynny ymlaen hwy oedd yn oruchaf yn yr ardal.
Cipiwyd Caer gan y Normaniaid yn yr 11eg ganrif a chreuwyd Iarllaeth Caer ganddynt, un o'r bwysicaf o arglwyddiaethau Normanaidd y Mers. Treuliodd Gruffudd ap Cynan, brenin teyrnas Gwynedd, gyfnod o rai blynyddoedd mewn carchar yn y castell Normanaidd. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaer ar ddiwedd ei daith trwy Gymru yn 1188.
Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol bu Caer yn ganolfan filwrol i'r Saeson yn eu hymosodiadau ar Gymru. Roedd gan y dref hanes hir o wrthgymreictod.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Grosvenor
- Castell
- Eglwys gadeiriol
- Neuadd y dref
- Tafarn y Falcon
Enwogion [golygu]
- Hugh Lloyd (1923-2008), actor
- Russ Abbot (g. 1947), comediwr
- Steven Cousins (g. 1972), sglefriwr
- Helen Willetts (g. 1972), cyflwynydd y tywydd
Galeri [golygu]
Gweler hefyd [golygu]
- Brwydr Caer
- Deva
- Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm
- Legio XX Valeria Victrix
- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr
Dolenni allanol [golygu]
- gwefan am y ddinas (Saesneg)