Nantwich
Cyfesurynnau: 53°04′01″N 2°31′19″W / 53.067°N 2.522°W
| Nantwich | |
|
|
|
| Poblogaeth | 12,515 |
|---|---|
| Plwyf | Nantwich |
| Awdurdod unedol | Dwyrain Swydd Caer |
| Swydd seremonïol | Swydd Gaer |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | NANTWICH |
| Cod deialu | 01270 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Gogledd Orllewin Lloegr |
| Senedd y DU | Crewe and Nantwich |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref yn Swydd Gaer, Lloegr yw Nantwich (neu Yr Heledd Wen yn y Gymraeg weithiau). Gorwedd ar lan Afon Weaver a Chamlas Undeb Swydd Amwythig. Yn hanesyddol bu'n enwog am ei diwydiant halen. Mae'n adnabyddus am ei hadeiladau gwyn a du hynafol, hanner pren, sy'n cynnwys tri adeilad rhestredig graddfa I. Mae Caerdydd 182.1 km i ffwrdd o Nantwich ac mae Llundain yn 238.3 km. Y ddinas agosaf ydy Stoke-on-Trent sy'n 22.5 km i ffwrdd.
Lleolir y dref tua 5 milltir i'r de-orllewin o Crewe. Mae'n groesffordd hanesyddol gyda'r priffyrdd A530, A529 ac A534 yn ymledu ohoni. Mae'r briffordd A534/A51 yn osgoi'r dref i'r gogledd a'r dwyrain.
Ceir terfyn gogleddol Camlas Llangollen i'r gogledd-orllewin o Nantwich, ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig. Adlewyrchir y cysylltiad â Chymru yn yr enw stryd 'Welsh Row' ac efallai yn elfen gyntaf enw'r dref ei hun, sef nant.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu]
- Amgueddfa Nantwich
- Capel yr Annibynwyr
- Churche's Mansion
- Eglwys Santes Fair
- Gwesty'r Coron
- Neuadd Dorfold
- Tŷ Townwell
Enwogion[golygu]
- Syr Randolph Crewe (1559–1646), barnwr
- George Latham (m. 1871), pensaer
- William Pickersgill (1861-1928), peiriannydd