Cyfansoddyn cemegol gwyn yw halen a'r enw cemegol arno yw sodiwm clorid (fformiwla NaCl). Mae halen yn rhoi blas ar fwyd ac i gadw (neu brisyrfio) cigoedd. Mae ychydig ohono'n hanfodol i ddyn ac i anifail fyw, ond mae gormod yn ddrwg a gall fod yn angheuol.
Defnyddir ef hefyd i ddadlaith rhew ar y ffyrdd.