Llandwrog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ger Caernarfon, Gwynedd, yw Llandwrog. Mae ar yr A499 hanner ffordd rhwng Caernarfon a Chlynnog. Yn ymyl y pentref ceir Parc Glynllifon, hen blasdy mawr sydd bellach yn ganolfan i weithgareddau o bob math. I'r gogledd mae Morfa Dinlle a'i draeth braf a Bae'r Foryd, lle rhed Afon Gwyrfai i'r môr.

Mae'r pentref wedi bod yn gartref i Gwmni Recordiau Sain ers iw stiwdio recordio cyntaf agor ar fferm Gwernafalau yn 1975.

Yr eglwys[golygu]

Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Twrog. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan y sant yn y 6ed ganrif. Yn anffodus dydi'r hen eglwys ddim yn sefyll bellach. Codwyd un newydd yn ei lle yn 1860. Cedwir rhai o'r cofebion i Wyniaid a Glyniaid Glynllifon yn yr eglwys newydd; mae nhw i gyd yn perthyn i'r 18fed ganrif.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandwrog (pob oed) (2,539)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandwrog) (1,920)
  
77.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandwrog) (1910)
  
75.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandwrog) (398)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu]

Atyniadau eraill[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.