Glynllifon

Oddi ar Wicipedia
Glynllifon
Mathgwesty mewn plasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstad Glynllifon Edit this on Wikidata
LleoliadYstad Glynllifon, Llandwrog Edit this on Wikidata
SirLlandwrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr30.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0733°N 4.305°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Plasdy mawr a chyn ystad ger Caernarfon, Gwynedd yw Glynllifon. Roedd hen ystad Glynllifon yn perthyn i Arglwyddi Niwbwrch. Mae wedi ei leoli ger Llandwrog ar y briffordd A499, rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Llifa Afon Llifon drwy Glynllifon gan roi iddo ei enw.

Mae Parc Glynllifon ar yr ystad, ac erbyn hyn mae adran amaethyddol Coleg Meirion-Dwyfor, gweithdai crefft a nifer o gyfleusterau addysgol yn cynnwys gwlau. Mae hefyd caffi a drysfa wrth y mynediad ac arddangosfeydd hanes megis peiriant pŵer stêm a gafodd ei adnewyddu gan y diweddar Fred Dibnah.[1] Cynhelir nifer o ffeiriau ym maes parcio Parc Glynllifon, yn arbennig ffair grefft a stêm.

Y brif fynedfa i'r ystad
Y peiriant pŵer stêm enwog

Mae gan y parc erddi sydd o ddiddordeb hanesyddol a gwyddonol. Maen nhw wedi cael eu dynodi â statws Gerddi Hanesyddol Gradd I yn ogystal ag Ardal Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol gan CADW, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.[2]

Mae Glynllifon hefyd wedi ei ddynodi'n Ardal Arbennig Cadwraeth gan y Joint Nature Conservation Committee. Mae'n gartref i Ystlumod pedol lleiaf, Rhinolophus hipposideros. Mae'r safle 189.27 hectar yn lle magu a gaeafgwsg i tua 6% o boblogaeth Prydain o'r ystlum hwn.[3]

Ailenwi[golygu | golygu cod]

Yn 2015 tynnodd y cwmni datblygu MBI o Halifax nyth cacwn am eu pennau pan gyhoeddon nhw y byddent yn newid enw'r plasty i "Wynnborn". Yn dilyn gwrthwynebiad lleol, cafwyd tro pedol.

Yn 2016 roedd y cwmni David Currie & Co, a oedd yn gyfrifol am werthu'r plasty, yn ei farchnata dan yr enw "Newborough Hall"; yn ôl Dr Simon Brooks, ysgrifennydd Dyfodol i’r Iaith, cysylltodd nifer o bobl ag ef, yn gwrthwynebu ailenwi'r Plas Glynllifon.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  The Attractions of Snowdonia : Glynllifon.
  2.  Parc Glynllifon. Cyngor Sir Gwynedd.
  3.  UK SAC site list : Glynllifon. Joint Nature Conservation Committee.
  4. dailypost.co.uk; adalwyd 12 Chwefror 2016

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato