Afon Llifon

Oddi ar Wicipedia
Afon Llifon
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGlynllifon Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.066577°N 4.313878°W Edit this on Wikidata
AberBae Caernarfon Edit this on Wikidata
Hyd6 milltir Edit this on Wikidata
Map

Afon yn ardal Arfon, Gwynedd, yw Afon Llifon. Mae'n adnabyddus fel yr afon sy'n llifo drwy gerddi plas Glynllifon. Ei hyd yw tua 6 milltir.

Cwrs[golygu | golygu cod]

Mae'n tarddu ym mryniau gogleddol Eryri ar lethrau Moel Tryfan ger Rhosgadfan (bro Kate Roberts a Dic Tryfan). Mae'n llifo oddi yno fel ffrwd fechan ar gwrs i gyfeiriad y gorllewin trwy'r caeau bychain niferus sydd rhwng Carmel a Rhostryfan. Mae'n gwneud tro bedol bron wrth fynd heibio i bentref Groeslon gan droi i lifo i gyfeiriad y de-orllewin am weddill ei thaith.[1]

I'r de o Llandwrog mae'n llifo trwy gerddi plas Glynllifon; creuwyd cyfres o readrau ornamental yn yr afon sy'n un o brif atyniadau'r gerddi hynny.

Ar ôl gadael parcdir coediog Glynllifon mae'r afon yn lledu am 2 filltir olaf ei chwrs. Mae'n llifo dan bont ar y briffordd A499 ac mae'n cyrraedd ei haber ar Fae Caernarfon tua milltir ar ôl hynny.[1]

Aber Afon Llifon

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Map OS Landranger 1:50,000 Taflen 115.