Coleg Meirion-Dwyfor

Oddi ar Wicipedia

Cyfesurynnau: 52°44′42″N 3°53′53″W / 52.745°N 3.898°W / 52.745; -3.898

Coleg Meirion-Dwyfor
Safle Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau
Sefydlwyd 1993
Math Coleg addysg bellach
Pennaeth Dr. Ian J. Rees
Lleoliad Gwynedd, Baner Cymru Cymru
Campws Dolgellau
Pwllheli
Glynllifon
Lliwiau           Piws ac oren
Gwefan http://www.meirion-dwyfor.ac.uk

Coleg addysg bellach yng Ngwynedd â'i brif safle yn Nolgellau sy'n gwasanaethu ardaloedd Meirionnydd a Dwyfor yw Coleg Meirion-Dwyfor (cyfeiriad grid SH718181). Mae'n goleg dwyieithog sy'n cynnig ystod o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Hanes[golygu | golygu cod]

Myg yn dathlu Coleg Meirionnydd ar adeg ei ddarfod i greu Coleg Meirion Dwyfor

Sefydlwyd Coleg Meirion-Dwyfor ym 1993, yn sgîl ad-drefnu addysg ôl-16 ym Meirionnydd a Dwyfor ac uno Coleg Meirionnydd a Choleg Glynllifon. Hon oedd coleg trydyddol dwyieithog cyntaf Cymru.[1]

Bu gan y coleg dri safle, yn Nolgellau ym Meirionnydd, Pwllheli yn Nwyfor a Glynllifon (ar gyfer cyrsiau mewn amaethyddiaeth) ger Caernarfon. Bu'r safle yn Nolgellau yn gartref i hen Ysgol Dr. Williams hyd iddi gau ym 1975.

Cafodd y coleg ei beirniadu'n hallt gan ESTYN yn 2002, am ganolbwyntio gormod ar asesu, gan adael i safon y hyfforddiant ddioddef oherwydd hynny.[2]

Ar 1 Ebrill 2010 unwyd Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Llandrillo Cymru, er bod y colegau wedi uno o ran rheolaeth a gweinyddiad cadwyd yr enwau annibynnol ar gyfer y ddau gampws.[3]

Ar 2 Ebrill 2012 unwyd Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Menai i greu Grŵp Llandrillo Menai, un o golegau addysg bellach mwyaf yng Ngwledydd Prydain, ond mae Coleg Meirion-Dwyfor yn parhau i gadw ei henw fel uned o'r grŵp fwy.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato