Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r erthygl yma am sir Gwynedd. Am yr hen deyrnas ganoloesol gweler Teyrnas Gwynedd.
Gwynedd (1996-heddiw)
CymruGwynedd.png
Gwynedd (1974-1996)
CymruGwynedd1974.png
Logo Cyngor Gwynedd

Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Gwynedd. Mae'n ffinio â Sir Conwy i'r dwyrain a gogledd Powys a Ceredigion i'r de. Mae Gwynedd yn sir y mae cyfartaledd uchel o'i phoblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae'r prif drefi yn cynnwys dinas Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Porthmadog, Pwllheli, Bethesda a Llanberis. Lleolir Prifysgol Bangor yn y sir. Does yr un plaid yn rheoli'r Cyngor Sir ar hyn o bryd.

Hanes[golygu]

Roedd yr hen sir Gwynedd (1974-1996) yn cyfateb yn fras i Gwynedd Uwch Conwy, prif diriogaeth Teyrnas Gwynedd. Roedd yn cynnwys rhan orllewinol Sir Conwy, yn cynnwys y Creuddyn, ac Ynys Môn, sef yr hen Sir Gaernarfon, Sir Fôn a Sir Feirionnydd. Mae'r hen sir yn bodoli o hyd fel un o "siroedd cadwedig" Cymru at bwrpasau seremonïol.

Tarian yr hen Sir: hyd at 1996

Daearyddiaeth[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Economi[golygu]

Ceir economi cymysg yn y sir. Mae rhan bwysig o'r economi yn seiliedig ar dwristiaeth gyda nifer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traethau niferus a'r mynyddoedd. Gorwedd rhan sylweddol o'r sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sy'n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i ardal Meirionnydd yn y de ac yn llawer ehangach na'r Eryri go iawn. Ond gwaith tymhorol yw twristiaeth ac mae hynny'n golygu diffyg gwaith yn y gaeaf. Problem arall gyda thwristiaeth yw'r alwad a greir am dai haf. Mae hyn yn gwthio prisiau tai i fyny allan o gyrraedd pobl leol ac yn effeithio ar sefyllfa'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd gwledig.

Mae amaethyddiaeth yn llai pwysig nag yn y gorffennol, yn enwedig yn nhermau y nifer o bobl sy'n ennill eu bywiolaeth o'r tir, ond mae'n aros yn elfen bwysig.

Y pwysicaf o'r diwydiannau traddodiadol yw'r diwydiant llechi, ond canran isel o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn y chwareli erbyn heddiw.

Mae diwydiannau sydd wedi datblygu yn fwy diweddar yn cynnwys stiwdios teledu a sain (lleolir pencadlys Cwmni Recordiau Sain yn y sir). Ceir dau atomfa yng Ngwynedd: mae atomfa Trawsfynydd wedi cau ond ar hyn o bryd mae atomfa Wylfa yn dal i redeg.

Mae'r sector addysg yn bwysig iawn i'r economi lleol hefyd. Lleolir Prifysgol Bangor yma a cheir sawl coleg arall fel Coleg Menai hefyd.

Prif drefi[golygu]

Cymunedau[golygu]

Ar gyfer llywodraeth leol ceir sawl cymuned yng Ngwynedd. Mae nifer o'r rhain gyda'i chynghorau eu hunain.

Cestyll[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cestyll Gwynedd (llyfr).jpg


Siroedd a Dinasoedd Cymru Map Cymru 1996 heb enwau.svg

Siroedd, Bwrdreistrefi Sirol a Dinasoedd presennol
Abertawe | Blaenau Gwent | Bro Morgannwg | Caerdydd | Caerffili | Casnewydd | Castell-nedd Port Talbot | Ceredigion | Conwy | Gwynedd | Merthyr Tudful | Pen-y-bont ar Ogwr | Powys | Rhondda Cynon Taf | Sir Benfro | Sir Ddinbych | Sir Fynwy | Sir y Fflint | Sir Gaerfyrddin | Torfaen | Wrecsam | Ynys Môn
Siroedd gweinyddol 1974-1996
Clwyd | De Morgannwg | Dyfed | Gorllewin Morgannwg | Gwent | Gwynedd | Morgannwg Ganol | Powys
Siroedd gweinyddol cyn ad-drefnu 1974
Sir Aberteifi | Sir Benfro | Sir Drefaldwyn | Sir Ddinbych | Sir Fynwy | Sir Faesyfed | Sir Feirionnydd | Sir Fôn | Sir Forgannwg | Sir Frycheiniog | Sir y Fflint | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaernarfon


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato