Llanbedr, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanbedr: afon Artro yn llifo dan y bont.

Mae Llanbedr yn bentref a chymuned yn ardal Ardudwy yng Ngwynedd. Saif ychydig i'r de o Harlech lle mae'r A496 i Abermaw yn croesi Afon Artro.

Tyfodd y pentref yn wreiddiol oherwydd y diwydiant llechi, ac yn awr mae'n boblogaidd gydag ymwelwyr yn ystod yr haf. Mae nifer o henebion yn y cyffiniau, yn cynnwys meini hirion o Oes yr Efydd ac olion tai crwn. Rhwng y pentref a'r môr mae twyni tywod Morfa Dyffryn a Mochras sydd hefyd yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Caewyd maes awyr y Llu Awyr Brenhinol ar Forfa Dyffryn yn 2005. Mae'r safle wedi'i glustnodi yn Ardal Fenter gan Lywodraeth Cymru. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian.

Rhyw filltir i'r dwyrain o'r pentref mae Pentre Gwynfryn. Y capel yma oedd capel "Salem" yn y llun enwog gan Sydney Curnow Vosper o Siân Owen, Tynyfawnog. Gerllaw Mochras gellir gweld rîff danfor Sarn Badrig ar lanw isel.

Gefeilliwyd Llanbedr â Huchenfeld yn 2008 wedi nifer o flynyddoedd o gyfnewid rhwng yr ysgolion, eglwysi, cerddorion ac arweinwyr y cymunedau. Datblygwyd perthynas agos a sefydlwyd ewyllys da rhwng y cymunedau er cof am y digwyddiadau erchyll ym 1945 yn Pforzheim a Huchenfeld yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae hyd at naw plwyf yng Nghymru yn dwyn yr enw Llanbedr. Mae Llanbedr yn Ardudwy yn sefyll ar geulan yr afon Artro yn agos i draethau Abermaw a Harlech. Dyma le o brydferthwch mawr, yn cael ei gysgodi gan goed ac mae’r afon Artro yn cychwyn yng Nghwm Bychan, sy’n le nodedig am olygfa ramantus, clogwyni crib uchel a chreigiau danheddog y Rhinogydd sy’n ei gylchynu. Mae tarddiad arall i’r afon yng Nghwm Nantcol, a disgynna’r dŵr mawnog dros raeadr odidog cyn ymuno â’r llif nid nepell o Gapel Salem, a wnaed yn enwog mewn darlun gan S.C. Vosper. Islaw, mae Pentre’ Gwynfryn, yn glwstwr del o dai, a choedwigoedd cynhenid gerllaw a gweirgloddiau yn ymwthio tua’r dorlan. Wedi cyrraedd Llanbedr, llifa’r afon yn ei hysblander dan bont y pentref cyn tasgu’n chwim tuag at Mochras a lledaenu i aber o brydferthwch hynod ger Pensarn a Llandanwg. Mae hanes diddorol yn perthyn i’r ardal. Fe welir olion yr oesoedd cynnar mewn nifer o feini a chromlechi ar gyrion hen lwybrau sy’n ymestyn o’r môr i’r mynyddoedd. Mae nifer o gaerau a chlystyrau o dai crynion o’r oesoedd haearn yn y mynyddoedd, ac yn yr eglwys mae carreg hynafol wedi’i naddu ar ffurf troell. Ond hen chwedlau o’r oesoedd tywyll sy’n tanio’r dychymyg. Dywedir bod y bardd Taliesin yn gysylltiedig â’r ardal, a chyfeirir ato mewn chwedl am Gwyddno Garanhir a deyrnasodd dros Gantre’r Gwaelod, a’i fab Elffin a ddarganfu faban yng nghored bysgod, a’i enwi ar ôl Taliesin. Yn hyn o beth, crëwyd magwrfa i lu o straeon sy’n ymwneud â’r Mabinogion.[1]



Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbedr, Ardudwy (pob oed) (645)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedr, Ardudwy) (338)
  
55%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedr, Ardudwy) (348)
  
54%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbedr, Ardudwy) (117)
  
39.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://www.snowdonia-holidays-llanbedr.co.uk/about-llanbedr/ynghylch-llanbedr/
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: