Sydney Curnow Vosper

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Salem gan Sydney Curnow Vosper.

Arlunydd Seisnig oedd Sydney Curnow Vosper (29 Hydref 186610 Gorffennaf 1942). Fe'i ganed yn Stonehouse, ger Plymouth, Dyfnaint yn Lloegr. Ef oedd yn gyfrifol am baentio un o'r lluniau enwocaf Cymru, sef Salem (1908), portread o Siân Owen, Tyn-y-Fawnog yn mynychu Capel Salem ym Mhentre Gwynfryn ger Llanbedr, Gwynedd. Arddangosir y llun heddiw yn Oriel Lady Lever, Port Sunlight, Cilgwri gan mai defnydd gwreiddiol y llun oedd mewn hysbysebion sebon.

Yn 2005 roedd galw i'r llun gael ei ymddangos yng Nghymru ar sail parhaol.[1]

Ffynonellau[golygu]

  1.  Call to return Salem painting. BBC (24 Mehefin 2005).

Dolen allanol[golygu]


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.