Cilgwri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Penrhyn sy'n gorwedd rhwng aber Afon Dyfrdwy ac Afon Merswy yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Cilgwri (Saesneg: The Wirral). Tan yn ddiweddar roedd rhan orllewinol a deheuol Cilgwri yn rhan o Sir Gaer a'r rhan ddwyreiniol yn rhan o Lannau Merswy. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o Gilgwri yn cael ei gweinyddu gan Bwrdeistref Ddinesig Cilgwri.

Mae'r rhan fwyaf o'r penrhyn yn dir isel, gwastad. Mae'r canolfannau diwydiannol yn cynnwys Penbedw (Birkenhead), Port Sunlight ac Ellesmere Port. Mae'r trefi eraill yn cynnwys Wallasey a New Brighton, Heswall a West Kirby.

Cysylltiadau Cymreig[golygu]

Yn y chwedl Gymraeg Canol Culhwch ac Olwen, 'Mwyalch Gilgwri' yw un o'r Anifeiliaid Hynaf yn y byd, ac mae'n cael ei holi gan Cei, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Bedwyr ac Eidoel ble mae Mabon.

Ar ei ffordd i Ogledd Cymru mae Gawain, arwr Celtaidd y gerdd Saesneg Canol, Syr Gawayn and the Grene Knygt, yn pasio trwy Gilgwri sy'n cael ei disgrifio fel the wyldernesse of Wyrale (J.R.R. Tolkien (gol.), Sir Gawain and the Green Knight (Rhydychen, ail argraffiad 1967).

Gweler hefyd[golygu]


Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato