J. R. R. Tolkien

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tolkien ym 1916

Roedd John Ronald Reuel Tolkien (3 Ionawr 1892 - 2 Medi 1973) yn ieithydd ac yn academydd amlwg, ac yn athro ar lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 1925 a 1945, cyn darlithio ar yr iaith Sacsonaidd yno rhwng 1945 a 1959. Roedd hefyd yn Babydd o ymroddedig. Mae Tolkien fwyaf enwog am ysgrifennu’r nofelau The Hobbit a The Lord of the Rings, sydd wedi eu selio ar fyd ffantasi Middle-earth.

Ganed Tolkien yn Bloemfontein, De Affrica, ond symudodd y teulu i Loegr pan oedd yn dair oed.

Tolkien ac iaith[golygu]

O oed cynnar, pan welodd enwau Cymraeg ar drelars glo o dde Cymru, fe ymddiddorodd Tolkien mewn ieithoedd. Graddiodd mewn ieitheg Hen Roegaidd, ac ym 1915 graddiodd gyda Hen Islandeg fel pwnc arbennig. Gweithiodd ar Eiriadur Saesneg Rhydychen rhwng 1918 a 1920. Serch hyn, ei brif ddiddordebau ieithyddol oedd Hen Saesneg a'r Gymraeg.

Aeth Tolkien ati i ddyfeisio nifer o ieithoedd gwahanol ar gyfer The Lord of the Rings, yn cynnwys Sindarin (a seliwyd ar y Gymraeg) a Quenya (a seliwyd ar Ffinneg). Hen Saesneg, neu Rohirric, oedd iaith gwerin gwlad ffuglennol Rohan.

Yn ei draethawd English and Welsh, dywedodd: Welsh is of this soil, this island, the senior language of the men of Britain; and Welsh is beautiful.[1]

Ysgrifau Eraill[golygu]

Yn ogystal â'r enwog The Hobbit a The Lord of the Rings ysgrifennodd Tolkien weithiau yn ymwneud a'i fyd chwedlonol. Ysgrifennodd The Silmarillon cyn yr uchod, sy'n trafod hen hanesion Middle Earth yn ei hoes gyntaf. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd hefyd nifer o ysgrifau gwahanol yn trafod gwahanol agweddau o'i fyd amrywiol.

Ym 1955 traddododd ei ddarlith English and Welsh i Brifysgol Rhydychen, yn disgrifio'r Gymraeg fel iaith 'brydferthach na'r Saesneg'.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. WikiQuote; adalwyd 17 Rhagfyr 2013