Bedwyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bedwyr yn dychwelyd Caledfwlch, cleddyf Arthur, i'r llyn.

Cymeriad a gysylltir â'r brenin Arthur mewn chwedlau Cymreig yw Bedwyr neu Bedwyr Bedrydant. Ceir y cyfeiriad cynharaf ato yn y gerdd Pa Gwr yw y Porthawr yn Llyfr Du Caerfyrddin (o tua'r 10fed ganrif), lle dywedir iddo ladd cannoedd ym mrwydr Tryfrwyd.

Ymddengys yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle mae'n cynorthwyo Culhwch i gyflawni'r tasgau a roddwyd iddo gan Ysbaddaden Bencawr er mwyn iddo gael priodi Olwen. Yn aml mae'n ymddangos ynghyd â Cai. Gyda Cai, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd ac Eidoel, mae'n mynd i holi'r Anifeiliaid Hynaf. Ef a Cai sy'n teithio ar ysgwydd Eog Llyn Llyw i gael hyd i'r carcharor Mabon fab Modron.

Ymddengys fel Bedivere yn y chwedlau Arthuraidd Ffrengig a Seisnig. Ymddengys yn yr Historia regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, lle mae'n cynorthwyo Arthur a Cai i orchfygu Cawr Mont Saint-Michel ac yn ymladd gydag Arthur yn erbyn Lucius Hiberius, Ymerawdwr Rhufain. Lladdir ef yn y frwydr olaf yn erbyn Lucius yng Ngâl, a chleddir ef yn Bayeux.

Nid yw'n gymeriad mor bwysig yng ngwaith Chrétien de Troyes, ond yn y traddodiad Seisnig, megis y Morte d'Arthur gan Thomas Malory, mae'n un o'r ychydig farchogion sy'n goroesi Brwydr Camlan. Ef sy'n cael y gorchwyl o ddychwelyd Caledfwlch, cleddyf Arthur, i'r llyn. Dywedir iddo wedyn fynd yn feudwy.