Bayeux

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Gadeiriol Bayeux

Dinas a chymuned yn département Calvados yn Normandi, gogledd-orllewin Ffrainc yw Bayeux. Mae'n enwog fel catref Brodwaith Bayeux.

Saif Bayeux heb fod ymhell o'r arfordir, ychydig i'r gorllewin o ddinas Caen. Llifa Afon Aure trwy Bayeux.

Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd yn un o'r dinasoedd olaf i bargau ym meddiant y Saeson yn Ffrainc. Bu Mathau Goch yn gapten ar y garsiwn yn y cyfnof yma. Ar 16 Mai, 1450, bu rhaid i Mathau ildio Bayeux. Cafodd ef a'i wŷr, ynghyd â channoedd o ferched a phlant, ganiatâd gan y Ffrancod i ymadael, ond heb eu harfau.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Bayeux yn un o'r rhannau cyntaf o Ffrainc i'w ryddhau o afael yr Almaen, ac ar 16 Mehefin 1944, yna y traddododd Charles de Gaulle ei araith bwysig gyntaf ar dir Ffrainc.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill