Llyfr Du Caerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tudalen gyntaf Llyfr Du Caerfyrddin; sgan o'r gwreiddiol gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Tudalen gyntaf Llyfr Du Caerfyrddin gyda llinellau agoriadol y gerdd Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (o argaffiad diplomatig J. Gwenogvryn Evans, Pwllheli 1907)
Argraffiad ffacsimile o llyfr Du Caerfyrddin

Un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf sydd wedi goroesi yw Llyfr Du Caerfyrddin (llawysgrif Peniarth 1). Llawysgrif gymharol fychan yw, a ysgrifenwyd ar femrwn rhywbryd yn y 13eg ganrif, efallai ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yn nhref Caerfyrddin, sy'n cynnwys 39 o gerddi ac un testun rhyddiaith byr, ar 54 tudalen ffolio; sef cyfanswm o 108 tudalen (mae rhai tudalennau yn eisiau). Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o Lawysgrifau Peniarth.

Cefndir[golygu]

Y llawysgrif[golygu]

Cysylltir y Llyfr Du â Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, a drowyd yn dŷ Awstinaidd gan y Normaniaid. Digon tlawd oedd y sefydliad, oedd dan reolaeth Priordy Llanddewi Nant Hodni yng Ngwent tan ddechrau'r 13eg ganrif. Ategir y darlun o dlodi'r priordy gan y ffaith mai darnau bach o femrwn caled a ddefnydwyd ar gyfer y llawysgrif. Mae'r llaw fras a geir ynddi'n awgrymu mai gŵr oedd yn gyfarwydd ag ysgrifenyddiaeth litwrgaidd a'i hysgrifennodd. Yn wahanol i lawysgrifau Cymreig cynnar eraill fel Llyfr Taliesin nid yw arddull y Llyfr Du yn rheolaidd - mae ffurfiau'r llythrennau'n ansefydlog, er enghraifft - ac mae'n debyg nad ysgrifennwr proffesiynol a'i lluniodd. Fel y noda A.O.H. Jarman, mae'r Llyfr Du yn llawysgrif unigryw sy'n anodd i'w dyddio a rhaid dibynnu ar dystiolaeth fewnol y llawysgrif ei hun i wneud hynny; sefyllfa sydd wedi peri bod cryn amrywiaeth barn amdani. Mae'r ffaith fod orgraff y llythrennau'n newid yn sylweddol ar ôl ffolio 20 yn awgrymu fod y llawysgrif wedi cael ei llunio ar ddau gyfnod gwahanol.

Ei hanes[golygu]

Mae hanes trosglwyddiad y llawysgrif yn ddiddorol. Yn ail chwarter yr 16eg ganrif roedd ym meddiant Syr John Price (1502-55), awdur Yn y lhyvyr hwnn. Ar sail ei dystiolaeth ef yn unig y cysylltir y Llyfr Du â Chaerfyrddin. Dywed Syr John y cafodd y llyfr gan un o drysorwyr Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yng nghyfnod diddymu'r mynachlogydd, a bod y trysorwr yn dweud ei fod yn tarddu o Briordy Caerfyrddin. Rhywbryd ar ôl hynny cafodd ei ffordd o'r De i'r Gogledd, fel nifer o lawysgrifau eraill. Ceir nodyn ynddo yn llaw y bardd Siôn Tudur (m. 1602). Roedd ym meddiant y casglwr Jasper Gryffyth (m. 1614) ar ddechrau'r 17eg ganrif. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Robert Vaughan (?1592-1667) o'r Hengwrt (Meirionnydd). Bu yn ddiogel yn llyfrgell enwog Hengwrt am tua 300 mlynedd. Gwelodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd y llyfr yno yn 1696. Yna etifeddwyd y llyfrgell gan William Watkin Edward Wynne o blas Peniarth yn 1859 ac ar ôl i Syr John Williams ei phrynu cafodd casgliad Peniarth, yn cynnwys y Llyfr Du, ei roi i'r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth.

Cynnwys[golygu]

Dyma'r testunau a geir yn y Llyfr Du yn nhrefn y llawysgrif:

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyhoeddodd William Forbes Skene (1809-1892) destun y Llyfr Du yn ei olygiad uchelgeisiol ond gwallus Four Ancient Books of Wales.

Ceir y testunau gorau yn:

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: