Priordy Llanddewi Nant Hodni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Priordy Llanddewi Nant Hodni
Llun arall o'r priordy

Priordy Awstinaidd ger pentref Llanddewi Nant Hodni yng nghymuned Crucornau yw Priordy Llanddewi Nant Hodni. Saif yng ngogledd-orllewin Sir Fynwy, 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni ar ffordd fynydd sy'n arwain i Gapel-y-ffin a'r Gelli Gandryll, yn Nyffryn Ewias.

Cyn sefydlu'r priordy roedd y safle eisoes yn adnabyddus fel clas Cymreig Llanddewi Nant Hodni, yn ardal Ewias. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r priordy newydd yn 1188 ac mae'n dweud mai dau feudwy Cymreig a sefydlodd yr hen glas. Roedd y feudwyfa yn eiddo i'r arglwydd Normanaidd William de Lacy, o deulu Lacy, arglwyddi Ewias Lacy. Yn 1118 sefydlodd ganondy i'r Canoniaid Awstinaidd yma, y cyntaf yng Nghymru.

Ad-feddiannwyd yr ardal gan y Cymry yn 1135, ac aeth rhai o'r canoniaid nad oeddynt yn Gymry i sefydlu canondy newydd, Llanthony Secunda, ger Caerloyw. Parhaodd teulu de Lacy i ariannu'r sefydliad gwreiddiol, ac adeiladwyd eglwys fawr i't priordy yn 1217. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd daeth clafdy'r priordy yn eglwys y plwyf; mae eglwys y priordy ei hun yn adfail.


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato