Gwyn ap Nudd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymeriad ym mytholeg a llên gwerin Cymru a gysylltir â'r Arallfyd a'r Tylwyth Teg yw Gwyn ap Nudd.

Yn y chwedl Cymraeg Canol gynnar Culhwch ac Olwen, mae Gwyn yn cipio'r forwyn Creiddylad, ferch Lludd Llaw Ereint ar ôl iddi redeg i ffwrdd gyda Gwythyr ap Greiddawl, ymgeisydd Gwyn am ei chariad. Mae Gwyn a Gwythyr yn ymladd ei gilydd ar Galan Mai, brwydr symbolaidd efallai sy'n cynrychioli'r ymryson oesol rhwng y gaeaf a'r haf gyda Creiddylad yn cynrychioli y dduwies Natur. Yn y chwedl mae Gwyn yn un o'r rhai sy'n cynorthwyo yr arwr Culhwch i hela'r Twrch Trwyth.

Ceir cyfres o englynion cynnar yn Llyfr Du Caerfyrddin ar ffurf deialog rhwng Gwyn ap Nudd a Gwyddno Garanhir, sy'n portreadu Gwyn fel rhyfelwr nerthol heb arlliw o fytholeg o'i gwmpas. Rhestrir nifer o safleoedd brwydrau yn y gerdd, llawer ohonyn nhw yn yr Hen Ogledd.

Cyfeiria Dafydd ap Gwilym (14eg ganrif) sawl gwaith at Wyn ap Nudd. Mae'n cyfeirio at y llwynog fel "edn i Wyn ap Nudd", er enghraifft, ac mae'r niwl yn "tyrau uchel eu helynt, / tylwyth Gwyn, talaith y gwynt".[1]

Mewn chwedlau llên gwerin diweddarach mae Gwyn yn cymryd lle Arawn fel brenin Annwn. Yn y cyswllt hynny mae'n arwain Cŵn Annwn ar eu helfa wyllt trwy'r nos.

Gwyn ap Nudd yw brenin y Tylwyth Teg yn llên gwerin Cymru, a cheir sawl chwedl amdano. Mae un chwedl yn adrodd sut y daeth Sant Collen i lys Gwyn ap Nudd ym mynyddoedd Y Berwyn a'i orchfygu a dangos mai hud a lledrith yn unig oedd ei balas gwych. Yn y chwedl mae Gwyn a'i bobl yn gwisgo dillad lliw coch a glas.

Mae gwyn yn gytras â'r gair Gwyddeleg fionn ("gwyn, teg"). Ymddengys fod cysylltiad rhwng Gwyn ap Nudd a'r arwr Gwyddelig chwedlonol Fionn mac Cumhaill, oedd yn ŵyr i Nuada. Mae enw Nudd, tad Gwyn, yn ffurf Gymreig ar Nuada ac mae'r ddau yn gysylltiedig â'r duw Celtaidd Nodens.

Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod enw Y Berwyn yn deillio o'r ffurf Gymraeg Cynnar bre wyn "Allt Gwyn" (gweler hefyd Caer Drewyn, ger Corwen). Cysylltir Gwyn â llynnoedd sy'n gartref i bysgod (cf. Fionn a'r eog) a thylluanod.

Ceir cerdd adnabyddus am Gwyn ap Nudd gan Howell Elvet Lewis (Elfed).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, ail arg. 1963), 26.40, 68.32.
  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988)
  • T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; arg. newydd 1979)