Tylwyth Teg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y gyfundrefn neo-baganaidd yn yr Unol Daleithiau, gweler: Eglwys y Tylwyth Teg.

Defnyddir yr enw Tylwyth Teg, weithiau Bendith y Mamau yn Ne Cymru, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn chwedloniaeth a llên gwerin llawer gwlad, er enghraifft y banshee yn Iwerddon, y brownies yn yr Alban, y fairies ac elves yn Lloegr, a'r fée yn Ffrainc.

Efallai fod cysylltiad rhwng y chwedlau am y Tylwyth Teg â hen dduwiau a duwiesau'r Celtiaid. Yn y rhan fwyaf o'r chwedlau gwerin Cymraeg, Gwyn ap Nudd yw eu brenin. Cysylltir hwy yn aml â llynnoedd; dywedid hefyd bod criafol yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi haearn. Ceir chwedlau amdanynt o lawer rhan o Gymru; casglwyd llawer o'r rhain gan Syr John Rhŷs, Owen Wynne Jones (Glasynys) ac eraill. Ceir nifer o themâu yn y chwedlau hyn; un yw bod y Tylwyth Teg yn cyfnewid babanod dynol am eu babanod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld â gwlad y Tylwyth Teg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio ac nad oes neb yn ei adnabod bellach.

Chwedl a gysylltir â nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi un o ferched y Tylwyth Teg, ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo â haearn. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Mae sawl fersiwn o'r chwedl hon yn gysylltiedig â llynnoedd, megis Llyn y Fan Fach yn Sir Gaerfyrddin a Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu. Gallai'r Tylwyth Teg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.

Mae'r gwaharddiad ar haearn (a halen hefyd weithiau), ynghyd â'r ffaith bod nifer o'r chwedlau yn lleoli gwlad y Tylwyth Teg dan siambrau claddu a gorseddau (bryniau isel neu hen siambrau claddu), yn arwain rhai efrydwyr i ddamcaniaethu bod y Tylwyth yn cynrychioli atgof y Celtiaid am y bobl gyn-Geltaidd, ac felly'n gysylltiad â phobloedd Oes y Cerrig.

'Bendith y Mamau' oedd yr enw ar y Tylwyth Teg yn y de, ac mae'n bosibl bod cysylltiad rhwng yr enw hwnnw â'r duwiesau Celtaidd triphlyg ac yn enwedig â'r duwiesau ym Mhrydain a Gâl a elwid yn Matres gan y Rhufeiniaid. Cedwir cof am y bodau hyn hefyd yn yr ymadroddion llafar "Bobl bach!" a "Bobl annwyl!" (ebychiad i fynegi syndod). Fel yn achos yr enwau eraill, dyma enghraifft hefyd o'r arfer mewn sawl diwylliant o beidio â chyfeirio at fodau arallfydol yn uniongyrchol.

Ceir traddodiadau am hiliogaeth arbennig o'r Tylwyth Teg yn Nyfed a elwir yn Blant Rhys Ddwfn. Dywedir eu bod yn byw mewn gwlad anweledig ym Mae Ceredigion.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Hugh Evans, Y Tylwyth Teg (Lerpwl, 1935; 4ydd argraffiad, 1950)
  • John Owen Huws Y Tylwyth Teg (Gwasg Carreg Gwalch, 1987) ISBN 0-86381-073-X
  • Owen Wynne Jones: Straeon Glasynys, gol. Saunders Lewis (Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)