Collen (sant)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sant Collen. Ffenestr gwydr lliw yn eglwys plwyf Llangollen.

Sant Celtaidd cynnar oedd Collen (fl. diwedd y 6ed ganrif). Mae'n bosibl fod rhai traddodiadau yn ei gymysgu â sant arall o'r enw Colan/Collen.

Hanes a thraddodiadau[golygu]

Yn ôl y testun Cymraeg Canol Diweddar (neu Cymraeg Modern Cynnar) Buchedd Collen (copïwyd yn 1536), roedd Collen yn fab i Gwynog, un o ddisgynyddion Caradog Freichfras, ac Ethinen (neu Ethni) ferch Matholwch 'Arglwydd Iwerddon'. Ond yn ôl traddodiad arall roedd yn fab i Betrwn o linach Rhydderch Hael.[1]

Cysylltir Collen â Llangollen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Dywedir iddo sefydlu eglwys yn Ninbych hefyd. Ceir Castell Collen yn enw ar gaer Rufeinig fechan ger Llandrindod; dywedir fod cerrig y capel wedi cael eu defnyddio yn ddiweddarach i godi Capel Maelog gerllaw. Bu eglwys Rhiwabon yn gysegredig i Gollen ar un adeg cyn cael ei hailgysegru i'r Forwyn Fair. Roedd 'Trallwng Gollen' yn hen enw ar Y Trallwng.[2]

Ceir Sant Colan yng Nghernyw ac enwir cymuned Langolen yn ardal Penn-ar-Bed, Llydaw, ar ei ôl yn ogystal.[3] Mae Buchedd Collen yn dweud y bu ganddo gell yn Glastonbury.[4]

Ceir chwedl llên gwerin sy'n sôn am ei ymweliad â llys Gwyn ap Nudd (brenin y Tylwyth Teg). Anfonodd Gwyn negesydd i'r sant yn ei gorchymyn i ddod i'w lys yn Y Berwyn. Yno mae Collen yn gweld y castell tegach erioed ac yn cael ei wahodd i mewn gan y porthor. Ond mae'r sant yn chwistrellu dŵr sanctaidd ar y brenin a'i lys ac mae popeth yn diflannu.[5]

Gwylmabsant: 31 Mai.

Llyfryddiaeth[golygu]

Buchedd Collen yn, T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholiad o lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Buchedd Collen yn Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholiad o lawysgrifau 1488-1609
  2. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  4. Buchedd Collen yn Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholiad o lawysgrifau 1488-1609
  5. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (1930).