Llwynog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llwynog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Canidae (rhan)
Genera

Anifail ysglyfaethus yw'r llwynog neu cadno sy'n perthyn i deulu'r Canidae ynghyd â bleiddiaid a chŵn. Y llwynog coch yw'r math mwyaf cyffredin o ddigon, ac mae ei gynffon drwchus a'i flewyn coch yn olygfa gyfarwydd yng nghefn gwlad Cymru.

Cigysydd yw'r llwynog, ac mae ganddo ddannedd miniog i ddal a bwyta ei fwyd. Mae'n bwyta cwningod, adar, llygod a nifer o anifeiliaid bach eraill. Mae amaethwyr yn gweld y llwynog fel pla gan ei fod yn lladd rhai anifeiliaid fferm, yn benodol ieir ac ŵyn; i'r perwyl hwnnw bu hela llwynogod yn draddodiad hir yng Nghymru. Gwaharddwyd hela llwynogod â chŵn yng Nghymru a Lloegr drwy ddeddf gwlad yn y flwyddyn 2005; er hynny mae tystiolaeth nad yw'r traddodiad wedi dod i ben yn llwyr.[1]

Mae'r llwynog yn ddiarhebol o gyfrwys a gellir defnyddio cadno neu llwynog i ddisgrifio rhywun cyfrwys neu dwyllodrus. Defnyddir cadno o ddiwrnod hefyd i ddisgrifio diwrnod "twyllodrus", pan fo'r tywydd yn braf yn y bore ond yn troi'n annifyr yn ystod y dydd.

Bu'r llwynog yn rhan bwysig o draddodiadau a llên gwerin Cymru ar hyd y canrifoedd, fel y blaidd. Yn fwy diweddar mae soned fyw R. Williams Parry Y Llwynog yn un o hoff gerddi Cymraeg pobl Cymru.[2] Llwynog enwocaf y Gymraeg, fodd bynnag, yw Siôn Blewyn Coch, a ymddangosodd gyntaf yn Llyfr Mawr y Plant ddechrau'r ugeinfed ganrif ac a fu wedyn yn brif gymeriad yn un o ffilmiau cynharaf S4C, Siôn Blewyn Coch a grëwyd ar gyfer Nadolig 1986, ac a ailddarlledwyd droeon ers hynny.

Cyfeiriadau[golygu]


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am llwynog
yn Wiciadur.