Amlwch
Cyfesurynnau: 53°25′N 4°20′W / 53.41°N 4.34°W
| Amlwch | |
Yr Eglwys yn Amlwch |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 3,438 (cyfrifiad 2001) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans | SH439930 |
| Prif ardal | Ynys Môn |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | AMLWCH |
| Rhanbarth cod post | LL68 |
| Cod deialu | 01407 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Ynys Môn |
| Cynulliad Cymru | Ynys Môn |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ynys Môn | |
Tref fach yng ngogledd Môn yw Amlwch, ar lôn yr A5025 tua 15 milltir i'r gogledd o Borthaethwy, hanner ffordd rhwng Cemaes a Moelfre. Tref sy'n gorwedd ar lan y môr yw hi, heb draeth ond gyda chlogwynni arfordirol trawiadol. Mae twristiaeth yn elfen bwysig yn yr economi lleol. Ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur gyda llongau yn hwylio oddi yno i Ynys Manaw a Lerpwl. Mae nifer o'r tai yn dyddio o'r 19eg ganrif ac yn ychwanegu at awyrgylch y dref.
Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Tyfodd Amlwch yn gyflym yn y 18fed ganrif oherwydd y cloddio copr ar Fynydd Parys, y fwyaf o'i fath yn y byd ar un adeg. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd gan Amlwch poblogaeth o tua 10,000 gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Dyna pryd yr estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle am longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
Dirywiodd y diwydiant copr lleol ar ganol y 1850au ond parhaodd Amlwch i fod yn ganolfan bwysig i'r diwydiant adeiladu ac atgyweirio llongau a gwaith arall cysylltiedig â'r môr.
Yn 1953 agorwyd gwaith cemegol i dynnu bromin o ddŵr môr ond cafodd ei gau yn 2004. Mae cau atomfa Wylfa, gerllaw, yn debyg o gael effaith andwyol ar yr economi lleol hefyd.
[golygu] Pobl o Amlwch
- William Roos (1808-1878), arlunydd
- Andy Whitfield (1974-2011), actor
[golygu] Atyniadau yn y cylch
- Mynydd Parys - 'Y Mynydd Copr'
- Porth Llechog - bae deniadol tua milltir a hanner i'r gogledd o Amlwch
[golygu] Dolenni allanol
- Fforwm gymunedol Amlwch
- (Saesneg) Gwefan cymuned
- (Saesneg) Cronfeydd data Amlwch hanesyddol
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele