Pentraeth

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Pentref hanesyddol yn ne-ddwyrain Môn, gogledd Cymru, yw Pentraeth, ar lôn yr A5025. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gorwedd yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ystyr yr enw yw "diwedd y traeth" ond erbyn heddiw mae'r môr (Y Traeth Coch) yn filltir i ffwrdd o'r pentref.

Ceir hen chwareli yn y bryniau isel ger y pentref. I'r dwyrain o'r eglwys ceir tri maen hir a elwir Y Tair Naid. Heb fod ymhell o'r pentref i gyfeiriad y gorllewin mae traddodiad yn nodi'r man lle cyflawnodd y bardd Einion ap Gwalchmai "Naid Abernodwydd".

[golygu] Brwydr Pentraeth

Ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd Hywel yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd gan Dafydd a Rhodri ym mrwydr Pentraeth. Coffheir Hywel a'i frodyr maeth mewn dwy gyfres gofiadwy o englynion marwnad gan y bardd Peryf ap Cedifor.

Ieithoedd eraill