Owain Gwynedd
Oddi ar Wicipedia
Owain ap Gruffudd ap Cynan, a elwid yn Owain Gwynedd, (1100 - 28 Tachwedd, 1170) oedd tywysog Gwynedd o 1137 tan ei farwolaeth. Gwelodd ei deyrnasiad afywiad mawr yng Ngwynedd a Chymru ac mae Brut y Tywysogion yn cyfeirio ato wrth yr enw Owain Fawr.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Yn fab i'r brenin Gruffudd ap Cynan, a fu'n dywysog cryf ar Wynedd am 62 o flynyddoedd, etifeddodd Owain rhan o'r deyrnas yn 1137 gyda'i frodyr, ond wedi 1143 llywodraethodd ef y mwyafrif o ogledd Cymru, a llawer o'r de hefyd.
Ceisiodd Harri II, brenin Lloegr oresgyn Gwynedd a gweddill Cymru yn 1157 ac eto yn 1163 a 1165.
Ym 1164, ymunodd y Gymru rydd gyfan, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, ag Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw annibyniaeth Cymru yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Cynulliodd byddin y Saeson yn arglwyddiaeth Croesoswallt tra arosai'r Cymry yr ochr arall i'r Berwyn. Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru, ond roedd y tywydd yn ei erbyn. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Roedd y Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Saeson gyrraedd man cyfyng a choediog yng Nghrogen ger Tregeiriog, ymosodasant ar golofnau blaen y fyddin Seisnig a'u dinistrio. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben. Cyfeirir at y frwydr fel Brwydr Crogen.
[golygu] Perthynas â'r eglwys
Roedd y Pab yn cefnogi Harri am fod Owain wedi priodi ei gyfnither, Cristin, ac nid oedd Owain yn barod i adael i Archesgob Caergaint reoli'r eglwys yng Nghymru. O ganlyniad i hyn, cafodd Owain ei ysgymuno gan y Pab.
[golygu] Ei ddiwedd
Bu farw Owain Gwynedd ar yr 28ain o Dachwedd 1170, a chafodd ei gladdu yn yr eglwys gadeiriol ym Mangor.
[golygu] Meibion
Cafodd Owain saith o feibion, sef:
- Hywel (1170), y bardd-dywysog enwog.
- Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr.
- Rhun (m. 1146)
- Maelgwn
- Dafydd (m. 1203).
- Rhodri (m. 1195), hendaid Senana. gwraig Gruffudd ap Llywelyn a mam Llywelyn ein Llyw Olaf.
- Cynan, tad Gwerful Goch a gorhendaid i Fadog ap Llywelyn, arweinydd gwrthryfel y gogledd yn erbyn y gorsgyniaid Seisnig yn 1294-1295).

