Senana

Oddi ar Wicipedia
Senana
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Bu farw1263 Edit this on Wikidata
TadCaradog ap Thomas Edit this on Wikidata
MamEfa ferch Gwyn Edit this on Wikidata
PriodGruffudd ap Llywelyn Fawr Edit this on Wikidata
PlantLlywelyn ap Gruffudd, Dafydd ap Gruffudd, Rhodri ap Gruffudd, Owain ap Gruffudd Edit this on Wikidata

Y Dywysoges Senana (neu Senena) ferch Caradog ap Thomas (fl. 1210 - 1260) oedd gwraig Gruffudd ap Llywelyn, Tywysog Gwynedd.[1]

Tras[golygu | golygu cod]

Trwy ei thad Caradog roedd hi'n orwyres i Owain Gwynedd. Roedd hi'n fam i Lywelyn Ein Llyw Olaf a'i frawd Dafydd. Roedd hi hefyd yn fam i Rodri ac Owain ynghyd â dwy ferch, Gwladus a Margaret.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Mae'r ychydig sy'n hysbys am Senana yn deillio o'r cyfeiriadau amdani yng nghofnodion y cyfnod, a hynny am ei bod yn chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Gwynedd ac yn y berthynas rhwng Gwynedd a choron Lloegr. Yn Awst 1241 aeth o Wynedd i gyfarfod â Harri III o Loegr yn Amwythig i geisio amodau am ryddhau ei gŵr o garchar ei frawd Dafydd ap Llywelyn, Tywysog Gwynedd. Pan garcharwyd ei gŵr Gruffudd gan Harri yn Nhŵr Llundain âi Senana yno i ymweld ag ef a cheisio ei gynorthwyo. Er mwyn gwneud hynny llwyddodd i gael caniatad y brenin. Mae ei diwedd yn anhysbys.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986).