Dafydd ap Llywelyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Gwynedd

Dafydd ap Llywelyn (c. 1215–Chwefror 25, 1246), oedd Tywysog Cymru a Gwynedd rhwng 1240 a 1246. Fel coffhâd iddo, enwyd asteroid ar ei ôl yn 2009 o'r enw 18349 Dafydd.[1]

Etifedd Llywelyn[golygu]

Llywelyn Fawr ar ei wely angau, gyda'i feibion Gruffudd a Dafydd. Llun mewn llawysgrif gan Mathew Paris sy'n dyddio o tua 1259.

Dafydd oedd unig fab Llywelyn Fawr o'i wraig briod Siwan, merch John, brenin Lloegr. Yn ei flynyddoedd olaf aeth Llywelyn i lawer o drafferth i gael cydnabod Dafydd fel ei etifedd ac olynydd. Yn ôl cyfraith Cymru, buasai'r deyrnas yn cael ei rhannu rhwng Dafydd a'i frawd hŷn Gruffudd, sef mab gordderch Llywelyn Fawr, ond trwy rym ei awdurdod llwyddodd Llywelyn i gael y tywysogion Cymreig a'i ddeiliaid eraill i gydnabod Dafydd fel ei unig etifedd cyfreithlon mewn seremoni yn Abaty Ystrad Fflur ym 1238. Llwyddodd yn ogystal i gael ewythr Dafydd, Harri III, brenin Lloegr, i'w gydnabod fel Tywysog Cymru yn 1220 (y cyntaf i gael y teitl yma gyda chydnabyddiaeth Lloegr, er i'w dad fod yn Dywysog Cymru de facto), a pherswadiodd y Pab i gyhoeddi mam Dafydd, Siwan, yn gyfreithlon i gryfhau sefyllfa Dafydd.

Tywysog[golygu]

Ar farwolaeth Llywelyn yn 1240 daeth Dafydd yn dywysog Gwynedd. Er fod Harri III wedi derbyn ei hawl i deyrnasu ar Wynedd, nid oedd yn barod i adael iddo gadw'r tiroedd yr oedd ei dad wedi eu goresgyn tu allan i Wynedd. Wnaeth Dafydd fforio opsiynau diplomatig, ac anfonodd lysgenhadon i Ffrainc yn 1241, ond ym mis Awst y flwyddyn honno ymosododd y brenin ar Wynedd, a gorfodwyd Dafydd i ildio iddo. Odan amodau Cytundeb Gwerneigron, collodd Dafydd ei diroedd tu allan i Wynedd a bu raid iddo drosglwyddo ei frawd Gruffudd i'r brenin. Yr oedd Dafydd wedi bod yn cadw Gruffudd yn garcharor, ac yn llaw y brenin gallai fod yn arf defnyddiol yn erbyn Dafydd. Difethwyd unrhyw gynlluniau oedd gan y brenin pan fu farw Gruffudd wrth geisio dianc o Dwr Llundain yn gynnar yn 1244.

Yr oedd hyn yn rhyddhau dwylo Dafydd, a gwnaeth gynghrair gyda thywysogion eraill Cymru i ymosod ar feddiannau Seisnig yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd y gwrthryfel gryn lwyddiant; erbyn Mawrth 1245 roedd Dafydd wedi goresgyn Tegeingl (ardal Sir y Fflint heddiw), yn ail-gipio tiroedd ei etifeddiaeth. Cwympodd castell Yr Wyddgrug iddo yn y gwanwyn, ac wnaeth o ymosod ar gastell Diserth hefyd gyda chatypyltau. Yn Awst 1245, ymosododd y Brenin Harri ar Wynedd eto, ac adeiladodd gastell newydd yn Neganwy. Bu ymladd ffyrnig, gan gynnwys ymosodiad Cymreig ar gwch Seisnig yn afon Conwy; ond diweddwyd yr ymgyrch gan farwolaeth annisgwyl Dafydd yn ei lys yn Abergwyngregyn yn Chwefror 1246. Fe'i claddwyd gyda'i dad yn Abaty Aberconwy. Am gyfnod, credwyd fod Dafydd yn gorwedd o fewn arch yn eglwys Crwst, ond arch Hywel Coetmor ydy o.

Yr olyniaeth[golygu]

Gan nad oedd priodas Dafydd ag Isabella, merch William de Braose wedi cynhyrchu aer, rhannodd dau fab Gruffudd, Llywelyn ap Gruffudd ac Owain ap Gruffudd, y deyrnas rhyngddynt, a pharhau'r rhyfel gyda'r brenin trwy gydol 1246. Yn Ebrill 1247 cyfarfu Llywelyn ac Owain a'r brenin yn Woodstock a daethant i gytundeb ag ef, ar gost colli llawer o'u tiroedd (gweler Cytundeb Woodstock).

Dafydd a'r beirdd[golygu]

Cedwir ar glawr tair cerdd i Ddafydd ap Llywelyn gan y beirdd llys, dwy ohonynt gan Dafydd Benfras ac un gan Einion Wan.[2] Canodd Einion gerdd dadolwch i gymodi â Dafydd. Canodd Dafydd Benfras awdl o foliant i'r tywysog ond ei gerdd fwyaf diddorol o safbwynt haneswyr yw ei farwnad iddo a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth yn Chwefror 1246. Yn y rhan gyntaf cymherir Dafydd a'i dad Llywelyn Fawr a'i frawd Gruffudd, a farwnadwyd yn barod gan Dafydd Benfras. Yn yr ail ganiad canmolir dewrder Dafydd a'i haelioni. Yn y drydydd ganiad cyfeirir at helyntion blynyddoedd olaf y tywysog a'i dras frenhinol. Mae'r gerdd yn gorffen ar nodyn personol iawn:

Ef a'm talai aur ar fy mysedd,
Nid ef a delid drwy dalarwedd;
 Dafydd dreisrydd drosedd — cyn golo,
Ni bu o Gymro ei gymrodedd.
Bûm i gyda hael, hwylglod rysedd,
Buarth eryr gwŷr, uch gwin a medd,
Bûm i gydag ef, yd gefais wledd;
Boed i gyda'i Dduw fo ei ddiwedd.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Erthygl yn y Daily Post
  2. N. G. Costigan ac eraill (gol.), Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995).
  3. Gwaith Dafydd Benfras ac eraill..., tud. 472.

Llyfryddiaeth[golygu]

Rhsgflsenydd :
Llywelyn Fawr
Tywysogion Gwynedd
Dafydd ap Llywelyn
Olynydd :
Llywelyn ap Gruffudd