Y Dywysoges Gwenllian

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am ferch Llywelyn ap Gruffudd yw hon. Gweler hefyd Gwenllian (gwahaniaethu).
Carreg goffa Gwenllian yn Sempringham
Carreg goffa Gwenllian yn Sempringham

Merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, a'i wraig Eleanor de Montfort, Arglwyddes Cymru, oedd y Dywysoges Gwenllian neu Gwenllian o Gymru (12 Mehefin, 1282 - 7 Mehefin, 1337). Hi oedd unig ddisgynnydd cyfreithlon Llywelyn o'i briodas ag Elinor, merch y barwn Simon de Montfort. Cafodd ei geni yn llys tywysogion Gwynedd yn Aber Garth Celyn, Gwynedd, a bu ei mam farw wrth roi genedigaeth iddi.

Ar ôl i Dywysogaeth Cymru syrthio, wedi lladd Llywelyn a dienyddio ei frawd Dafydd, bu erlid gan y Saeson ar ddisgynyddion uniongyrchol olaf Teulu Aberffraw. Roedd Eryri a chalon Gwynedd dan warchae ac am chwe mis neu ragor bu cyfnod dychrynllyd yn hanes y wlad gyda'r milwyr Seisnig yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnant.

Daliwyd Gwenllian. Yr oedd y Dywysoges ifanc yn amlwg yn berygl posibl i Goron Lloegr ac o ganlyniad fe'i ducpwyd o Wynedd a'i charcharu am oes ym Mhriordy Sant Gilbert yn Sempringham, Lloegr, a hithau ond yn flwydd a hanner oed. Ac yno y bu tan ei marw yn 1337.

Codwyd carreg goffa iddi yn Sempringham yn 2001 gan Gymdeithas Gwenllian.

[golygu] Dolen allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Ieithoedd eraill