Tywysog Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Lywelyn Ein Llyw Olaf yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn[1], ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, gyda sefydliad Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr.

Brenhinoedd Cymru[golygu]

Brenin oedd y teitl a ddefnyddiai rheolwyr Cymreig cyn i'r term "tywysog" gael ei fabwysiadu. Serch hynny nid y tywysogion oedd y cyntaf i geisio uno Cymru dan un penarglwydd.

Tywysogion y Cymry[golygu]

Cerflun o Lywelyn Fawr yng Nghonwy

Bu tueddiad i ddefnyddio'r gair Tywysog am reolwyr Cymru o tua 1200 ymlaen. Cyn hynny defnyddiwyd y gair brenin hyd yn oed gan groniclwyr Lloegr. Daeth Owain Gwynedd i ddefnyddio'r teitl princeps Wallensium (tywysog y Cymry) erbyn diwedd ei oes. Disgrifir ei fab Dafydd ab Owain Gwynedd fel princeps Norwalliae (tywysog gogledd Cymru) a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth fel proprietarius princeps Sudwalie, (priod dywysog de Cymru). Mae John Davies (hanesydd) yn ei gyfrol Hanes Cymru yn pwysleisio nad yw newid teitl o frenin i dywysog yn golygu lleihad yn eu statws o angenrheidrwydd. Ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' yw "un sy'n tywys, arweinydd, rheolwr" neu'n llythrennol "un sydd ar y blaen, un sy'n arwain."

Defnyddiai Llywelyn Fawr y teitl "Tywysog Gogledd Cymru".

Nod pob un o'r tywysogion hyn oedd i benarglwyddiaethu ar Gymru gyfan. Y rhai yn eu plith a lwyddodd i ddod yn benarglwyddi a de facto tywysogion Cymru oedd Owain Gwynedd, Rhys ap Gruffudd a Llywelyn Fawr; ond Llywelyn ap Gruffudd a lwyddodd i sefydlu Tywysogaeth Cymru.

Rhestr o Dywysogion y Cymry[golygu]

Tywysogion Cymru[golygu]

Prif Erthygl: Tywysogaeth Cymru

Sefydlwyd Tywysogaeth Cymru ym 1267 gan Lywelyn ap Gruffudd gyda chydnabyddiaeth Brenin Lloegr a'r Pab. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr.

Ers y Deddfau Uno ym 1536 a 1543 nid oes gan ddeilydd y teitl unrhyw rôl gyfansoddiadol yng Nghymru

Rhestr o Dywysogion Cymru[golygu]

Siôr, y Rhaglyw Dywysog, 16fed Tywysog Cymru
  1. Llywelyn ap Gruffudd 1267-1282
  2. Edward o Gaernarfon 1301-1307
  3. Edward, y Tywysog Du 1343-1376
  4. Rhisiart o Bordeaux 1376-1377
  5. Harri Mynwy 1399-1413
  6. Edward o Westminster 1454-1471
  7. Edward mab Edward IV 1471-1483
  8. Edward o Middleham 1483-1484
  9. Arthur Tudur 1489-1502
  10. Harri Tudur 1504-1509
  11. Harri Stuart 1610-1612
  12. Siarl Stuart 1616-1625
  13. Siôr mab Siôr I 1714-1727
  14. Frederick 1729-1751
  15. Siôr mab Frederick 1751-1760
  16. Siôr y Rhaglyw Dywysog 1762-1820
  17. Albert Edward 1841-1901
  18. Siôr mab Edward VII 1901-1910
  19. Edward mab Siôr V 1910-1936
  20. Siarl Windsor (ers 1958)[2]

Hawlwyr i'r teitl o Dywysog Cymru[golygu]

Cerflun o Owain Glyndŵr yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Hawliodd Dafydd ap Gruffudd y teitl ar ôl marwolaeth ei frawd Llywelyn ap Gruffudd, ond ni oroesodd y rhyfel yn erbyn Edward I, brenin Lloegr.

Hawliodd Owain Lawgoch y teitl fel etifedd olaf llinach tywysogion Aberffraw, ond cafodd ei lofruddio cyn iddo wirioneddu ei gynlluniau.

Arweinydd gwrthryfel yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr ym 1400 a chafodd ei gydnabod gan frenin Ffrainc. Ffurfiodd Owain gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Caergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402. Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond ar ôl 1405 dechreuodd y gwrthryfel edwino'n raddol. Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes unrhyw sicrwydd am ei hanes ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o bileri pwysicaf y genedl.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hanes Cymru, t. 138, John Davies, Penguin 1990
  2. Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, J.G. Edwards, Gwasg Prifysgol Cymru 1991