Abaty Ystrad Fflur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Porth Gorllewinol
Erthygl am yr abaty yw hon, am y gymuned gweler Ystrad-Fflur.

Hen abaty Sistersiaidd yw Abaty Ystrad Fflur (Lladin: Strata Florida). Fe'i lleolir ger Pontrhydfendigaid yng ngogledd Ceredigion.

Hanes[golygu]

Roedd y Sistersiaid, neu'r mynaich gwynion, yn gymuned fugeiliol, yn gwarchod defaid a gwartheg ar eu hystadau er mwyn cynnal eu cymuned grefyddol a diwylliannol.

Nid oes sicrwydd ynglŷn ag union ddyddiad sefydlu'r abaty, ond dywedir iddo gael ei sefydlu o gwmpas y flwyddyn 1164, dan nawdd yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ffynnai'r sefydliad yn y ddeuddegfed ganrif fel canolfan diwylliant a pheth gyfoeth; yma hefyd y cyfansoddwyd un fersiwn o'r cronicl enwog Brut y Tywysogion. Galwodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint yn Ystrad Fflur yng ngwanwyn 1188 ar eu taith trwy Gymru. Teithiasant yno o Bont Steffan. Dywed Gerallt eu bod wedi treulio'r nos yn yr abaty ond yn anffodus nid yw'n manylu ar y croeso a gafwyd. Roedd yr abad Seisyllt yn ddigon da i dywys y ddau ar weddill eu ffordd i'r gogledd.[1]

Rhan o furiau'r abaty.

Dioddefodd yr abaty beth difrod yn ystod rhyfeloedd y drydedd ganrif ar ddeg; yn arbennig gan ymgyrchoedd Edward I, brenin Lloegr yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Yn fuan wedyn, difrodwyd rhan o'r abaty gan dân a achoswyd gan fellten. Gwanwyd y sefydliad gan y trychinebau hyn, ac yn diweddarach gan y Pla Du, ac mae'n ymddangos nad adferwyd y niferoedd ynddo.

Dywedir i'r bardd Dafydd ap Gwilym gael ei gladdu yma ym 1380 dan ywen hynafol sydd yn parhau i dyfu yno heddiw.

Erbyn y bymthegfed ganrif, fe ddioddefodd yr abaty o weithgareddau milwrol y Saeson yng Nghymru, a lleihawyd y gymuned i saith mynach. Diddymwyd yr abaty ym 1539 fel rhan o ymgyrch Diddymu'r Mynachlogydd gan Harri VIII o Loegr. Gwerthwyd rhai o'r tiroedd amaethyddol, a throsglwyddwyd tir yr abaty i deulu Stedman. Yn y cyfnod hwn, dymchwelwyd rhannau sylweddol o'r adeiladau a defnyddiwyd y cerrig at ddibenion adeiladu eraill.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tyfodd diddordeb yn yr adfeilion fel atyniad i deithwyr, yn arbennig dan ddylanwad Stephen Williams, y peiriannydd rheilffyrdd.

Y Groes[golygu]

Ceir yma hefyd groes eglwysig a gerfiwyd o garreg yn y Canol Oesoedd ac a leolwyd y tu allan i'r wal allanol; cyfeiriad grid SN746657. Mae hi'n 1.5 metr o uchder, .05m o led a thewder o 0.12m.[2]

Cofrestwyd yr heneb hon gan Cadw gyda rhif SAM: CD060.[3]

Etifeddiaeth[golygu]

Llun o'r adfeilion o'r Illustrated London Reading Book, 1851

Mae adfeilion yr abaty wedi ysbrydoli sawl llenor. Y gerdd enwocaf amdano, efallai, yw 'Ystrad Fflur' gan T. Gwynn Jones, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1926 ac ddaeth yn ddarn adrodd cyfarwydd i blant ysgol ledled Cymru. Dyma'r ddau bennill cyntaf:

Mae dail y coed yn Ystrad Fflur
Yn murmur yn yr awel,
A deuddeng Abad dan y gro
Yn huno yno'n dawel.
Ac yno dan yr ywen brudd
Mae Dafydd bêr ei gywydd,
A llawer pennaeth llym ei gledd
Yn ango'r bedd tragywydd.[4]

Heddiw[golygu]

Mae adfeilion yr abaty yng ngofal Cadw ac yn agored i'r cyhoedd am dâl yn yr haf ac am ddim yn y gaeaf. Mae'r mynediad oddi ar y ffordd B4343.

Rhan fwyaf trawiadol yr abaty, y rhan sydd wedi goroesi orau, a'r ddelwedd a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin ohono, yw'r porth gorllewinol. Mae'n nodedig oherwydd ei saernïaeth gain. Mae hefyd yn bosibl gweld olion seiliau'r abaty cyfan a chael syniad o ddyluniad y cyfan. Mae rhywfaint o'r addurniadaeth a rhai teiliau llawr addurnedig wedi goroesi.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Thomas Jones (gol.), Hanes y Daith Trwy Gymru, pennod IV.
  2. Gwefan Coflein
  3. Data Cymru Gyfan, CADW
  4. T. Gwynn Jones, 'Ystrad Fflur', Caniadau (Wrecsam, 1934).

Ffynonellau[golygu]

  • David M. Robinson & Colin Platt, Strata Florida Abbey, Talley Abbey CADW, 1992 ISBN 1-85760-106-8

Darllen Pellach[golygu]

J. Beverley Smith a W.G Thomas Abaty Ystrad Fflur HMSO, 1977

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: