Sgwrs:Dafydd ap Llywelyn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Dwi'n sylwi dy fod wedi newid dyddiad enwi'r asteroid o 1990 i 2009 Ynyrhesolaf. Mae gwefan NASA yn dweud 1990 y darganfuwyd yr asteroid ac fel arfer mae'r enwi'n digwydd ar unwaith o fewn wythnosau. Pa dystiolaeth sydd gen ti mai 2009 yw'r dyddiad cywir? Llywelyn2000 22:03, 21 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Achos roedd yna erthygl yn y Daily Post amdano dim ond rhyw dair wythnos yn ol. Roedd yna erthygl ar wefan Cymraeg y BBC hefyd. Cafodd yr asteroid ei enwi yn gynharach eleni trwy weithgareddau'r Pwyllgor Dafydd ap Llywelyn, sydd yn trio codi cofeb iddo yn Sir Y Fflint. Ynyrhesolaf 18:05, 26 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mi rwyt ti yn llygad dy le, gyfaill. Diolch am y cywiriad. Llywelyn2000 19:54, 26 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]