Awdl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cerdd gaeth sy'n defnyddio mwy nag un o'r pedwar mesur ar hugain traddodiadol yw awdl. Nid yw o reidrwydd yn gerdd hir, ond tueddir i gyfystyru awdl â cherdd gaeth hir ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol.

Gofynnir am awdl ar gyfer cystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn aml. Pan ofynnir am awdl, fe'i cyfyngir i 200 llinell fel arfer. Yr oedd awdlau eisteddfodol dechrau'r ugeinfed ganrif yn llawer hwy.

Yn wreiddiol, cân ar un mesur oedd awdl,[1] ond dechreuodd y Gogynfeirdd hwyraf ganu teirawdl a phymawdl, felly daeth awdl yn gyfystyr â cherdd ar fwy nag un mesur. Roedd llawer o'r awdlau hyn yn cynnal yr un brifodl drwy gydol y gerdd (yr un yw tarddiad awdl ac odl). Erbyn cyfnod Beirdd yr Uchelwyr, daethai awdl i olygu cerdd gaeth ar fwy nag un mesur.

Arferai nifer o Feirdd yr Uchelwyr ganu awdlau gorchestol gan gynnwys pob un o'r pedwar mesur ar hugain. Yr enw a roir ar awdl o'r fath yw awdl enghreifftiol.

Yr awdl oedd cyfrwng dewisedig Beirdd y Tywysogion i ganu mawl a marwnad cyn i'r cywydd ddod yn boblogaidd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925.

Gweler hefyd[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.