Rhys ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Rhys ap Gruffudd (gwahaniaethu)
Arfbais Rhys ap Gruffudd

Roedd Rhys ap Gruffudd (113228 Ebrill 1197) yn dywysog teyrnas Deheubarth o 1155 hyd ei farwolaeth. Adnabyddir ef hefyd dan y teitl Yr Arglwydd Rhys.

Bywyd cynnar[golygu]

Rhys ap Gruffudd

Yr oedd Rhys yn ail fab i Gruffudd ap Rhys, tywysog rhan o Ddeheubarth, a Gwenllian ferch Gruffudd, chwaer Owain Gwynedd. Mae'n debygol iddo gael ei eni yn Iwerddon. Bu farw ei rieni pan oedd Rhys tua phedair oed, Gwenllian ar ôl iddi arwain byddin i ymosod ar gastell Normanaidd Cydweli yn absenoldeb Gruffudd yn 1136, a Gruffudd ei hun y flwyddyn ganlynol. Ei frawd hŷn oedd Maredudd ap Gruffudd, ac yr oedd ganddo ddau frawd iau, Morgan a Maelgwn. Yr oedd ganddo hefyd ddau hanner brawd, Anarawd a Cadell, ac o leiaf ddwy chwaer, Gwladus a Nest.

Yn dilyn marwolaeth ei dad, daeth ei hanner brawd Anarawd ap Gruffudd yn dywysog Deheubarth. Yn 1143, pan oed Rhys yn unarddeg oed, lladdwyd Anarawd trwy dwyll gan wŷr Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, brenin Gwynedd. Cosbodd Owain ei frawd trwy yrru ei fab Hywel ab Owain Gwynedd i gymeryd ei diroedd yng Ngheredigion oddi arno.

Brwydrau cyntaf[golygu]

Daeth brawd Anarawd Cadell ap Gruffudd yn awr yn dywysog. Yn 1146 mae cofnod am Rhys yn ymladd gyda'i frodyr Cadell a Maredudd i gymeryd meddiant o gastell Llansteffan, yna'n ymosod ar y Normaniaid mewn rhannau eraill o dde Cymru ac yn helpu adennill Ceredigion o feddiant Gwynedd yn 1153.

Yn 1151 ymosodwyd ar Cadell gan fintai o Normaniaid a'i adael gydag anafiadau mor ddrwg fel na allai gymeryd rhan yn y brwydro bellach. Yn 1153 aeth ar bererindod i Rufain. Bu Maredudd farw yn 1155 gan adael Rhys fel tywysog Deheubarth.

Dechrau ei deyrnasiad[golygu]

Yr oedd sialens i Rys ar ddwy ochr. Un oedd oddi wrth Owain Gwynedd, oedd yn ceisio cael Ceredigion yn ôl i'w feddiant. I amddiffyn y diriogaeth, adeiladodd Rhys gastell Aberdyfi. Bu hefyd yn ymladd gyda'r brenin Harri II o Loegr oedd newydd ddod i'r orsedd. Wedi blwyddyn neu ddwy, gofynnodd Rhys am delerau heddwch a chyfarfu y brenin yn 1158. Collodd Rhys Geredigion a thiroedd eraill, a ddychwelwyd i'w harglwyddi Normanaidd.

Yn 1162, cymerodd Rhys fantais ar absenoldeb Harri yn Normandi i geisio adennill rhai o'i diroedd, a chipiodd gastell Llanymddyfri. Y flwyddyn ddilynol dychwelodd y brenin ac arwain ymosodiad ar Ddeheubarth. Bu raid i Rhys ildio a rhoi gwystlon, ac fe'i cymerwyd yntau i Loegr fel carcharor.

Wedi cyfnod byr penderfynodd Harri ei ryddhau a dychwelyd rhan o'i diriogaeth, y Cantref Mawr. Gwysiwyd Rhys i ymddangos gerbron Harri yn Woodstock i dalu gwrogaeth iddo, ynghyd ag Owain Gwynedd a Malcolm, brenin Yr Alban. Yn 1164 ymunodd holl dywysogion Cymru mewn gwrthryfel, gan arwain at ymosodiad arall ar Gymru gan Harri yn 1165. Methodd yr ymgyrch yma, a dialodd Harri ar y gwystlon, gan ddallu mab Rhys, Maredudd, Cipiodd Rhys gastell Aberteifi a'i losgi, ac adenillodd Ceredigion.

Yn 1167 ymunodd ag Owain Gwynedd i ymosod ar Owain Cyfeiliog o dde Powys ac yn 1168 ymosododd ar Normaniaid Buallt, gan ddinistrio'r castell. Wedi marw Owain Gwynedd yn 1170 ystyrid Rhys y pennaf o dywysogion Cymru, a galwai ei hun wrth y teitl "Tywysog De Cymru".

Heddwch gyda'r brenin Harri[golygu]

Yn 1171 cynhaliwyd cyfarfod arall rhwng Rhys a Harri II, a daethant i gytundeb. Bu raid i Rhys dalu teyrnged, ond cafodd gadw'r hyfan o'r tiroedd yr oedd wedi eu cipio. Pan wrthryfelodd meibion Harri yn ei erbyn yn 1173 gyrrodd Rhys ei fab Hywel i helpu'r brenin, yna yn 1174 arweiniodd ef ei hun fyddin i Swydd Stafford i helpu i roi diwedd ar y gwrthryfel. Enwyd Rhys yn Ustus De Cymru, er er fod problemau gyda rhai o arglwyddi'r gororau, parhaodd perthynas Rhys a'r brenin yn dda yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Nawdd a chrefydd[golygu]

Cynhaliodd Rhys ŵyl o farddoniaeth a cherddoriaeth yn ei lys yn Aberteifi adeg y Nadolig 1176, a ystyrir fel yr eisteddfod gyntaf y mae cofnod amdani. Cyhoeddwyd y cystadlaethau flwyddyn ymlaen llaw trwy Gymru benbaladr (ac yn Lloegr, Yr Alban, Iwerddon ac efallai Ffrainc yn ôl Brut y Tywysogion, ond mae'n bosibl mai enghraifft o ormodiaith yw hynny). Rhoddwyd dwy gadair fel gwobrau, un am y darn gorau o farddoniaeth ac un am y perfformiad cerddorol gorau ar unrhyw offeryn. (Gweler Eisteddfod Aberteifi, 1176).

Yn y cyfnod hwn, sefydlodd Rhys Abaty Talyllychau a noddodd Abaty Ystrad Fflur.

Teynasiad ddiweddarach a marwolaeth[golygu]

Wedi marwolaeth y brenin Harri yn 1189, gwrthryfelodd Rhys yn erbyn y brenin newydd, Rhisiart I ac ymosododd ar yr arglwyddi Normanaidd o gwmpas ei deyrnas, gan gipio cestyll San Clêr a Llansteffan. Yn ei hen ddyddiaddau cafodd Rhys drafferth i gadw rheolaeth ar ei feibion, yn enwedig Maelgwn a Gruffudd, oedd yn cweryla'n barhaus. Yn 1194 gorchfygwyd Rhys mewn brwydr gan Maelgwn a Hywel a chafodd ei garcharu am gyfnod yng Nghastell Nanhyfer, cantref Cemais, ond rhyddhawyd ef yn ddiweddarach gan Hywel.

Arweiniodd Rhys ei ymgyrch olaf yn erbyn y Normaniaid yn 1196, gan gipio nifer o gestyll gan gynnwys Castell Caerfyrddin a llosgi'r dref Saesnig yn ulw. Gyda chymorth llawer rhagor o filwyr Cymraeg lleol trodd i'r dwyrain gan ymosod ar Castell Glan Edw (Conwy ger Maesyfed) gyda'i beiriannau rhyfel nerthol nes i'r Saeson ildio; llosgodd y castell. Aeth yn ei flaen i gipio Castell Maesyfed a Chastell Paun. O fewn dyddiau, bron, roedd ei fyddin yn fuddugol ym Mrwydr Maesyfed ar lawr y dyffryn pan laddwyd deugain o farchogion Roger de Mortimer a Hugh de Say.

Gwyddom o'r llawysgrifau Cymreig fod gan fyddin Rhys beiriannau rhyfel soffistigedig iawn gan gynnwys catapwltiau a mangonelau.

Y flwyddyn ddilynol, bu Rhys farw yn annisgwyl a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dilynwyd ef gan ei fab Gruffudd ap Rhys.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Gwynfor Evans, Yr Arglwydd Rhys, Tywysog Deheubarth (Caernarfon, 1982)
  • Roger Turvey The Lord Rhys: Prince of Deheubarth (Gwasg Gomer) ISBN 1-85-902430-0
  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, d.g. Rhys ap Gruffudd.
Rhagflaenydd:
Gruffudd ap Rhys
Tywysog Deheubarth
11551197
Olynydd:
Gruffudd ap Rhys II