Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Merch Gruffudd ap Cynan a'i wraig Angharad ferch Owain, chwaer Owain Gwynedd a gwraig Gruffudd ap Rhys o Caeo, tywysog Deheubarth, oedd Gwenllian (bu farw 1136). Cyfunai felly Wynedd a Deheubarth trwy ei phriodas. Cafodd o leiaf bedwar o blant: Anarawd (bu farw 1143), Cadell (bu farw 1175), Maredudd (bu farw 1155) a Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys, m. 1197).

1136[golygu]

Ychydig o ffeithiau cadarn sydd ar glawr amdani tan ei blwyddyn olaf. Yn y flwyddyn 1136 bu farw Harri I, brenin Lloegr. Gwelai Gruffudd ap Cynan gyfle i adennill tir oddi ar y Normaniaid gan fanteisio ar y mewn-frwydro dros yr olyniaeth rhwng yr Ymerodres Matilda a Steffan, brenin Lloegr. Torrodd gwrthryfel allan yn y Deau ac aeth Gruffudd ap Rhys i Wynedd i gael cymorth ei dad-yng-nghyfraith, Gruffydd ap Cynan. Cymerodd Gwenllian yr awennau yn Neheubarth yn abesenoldeb ei gŵr.

Yn ymyl Castell Cydweli yn 1136 ymladdwyd Brwydr Maes Gwenllian rhwng byddin o Gymry lleol dan Wenllian, a Maurice de Londres. Collodd y Cymry y dydd yn erbyn llu sylweddol a atgyfnerthwyd gan farchogion Normanaidd a anfonwyd gan rai eraill o arglwyddi'r Mers. Daliwyd y dywysoges ar faes y gad. Er gwaethaf y ffaith ei bod o waed brenhinol ac yn fam, cafodd ei dienyddio ar orchymyn de Londres.

Cof[golygu]

Ar 23 Mai 1991, dadorchuddiwyd cofeb er cof am Wenllian yn y castell hwnnw. Codwyd yr arian at hyn gan aelodau o Ferched y Wawr ledled Cymru. Arweiniwyd y seremoni gan Gwynfor Evans.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • J. E. Lloyd, A History of Carmarthenshire (Caerdydd, 1935). t. 140
  • Peter Newton, Gwenllian: The Welsh Warrior Princess (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1992).