Merched y Wawr
Oddi ar Wicipedia
Mae Merched y Wawr yn fudiad Cymreig a Chymraeg sy'n rhoi'r cyfle i fenywod i gymdeithasu trwy drefnu teithiau, cyngherddau a chyfarfodydd. Sefydlwyd y mudiad yn 1967 yn dilyn anfodlonrwydd ymysg rhai aelodau o Sefydliad y Merched gyda natur uniaith Saesneg y mudiad hwnnw.[1][2][3] Mae yna dros 250 o ganghennau yng Nghymru, ac fe gyhoeddir y cylchgrawn Y Wawr pedair gwaith y flwyddyn.
Yn 1975, dyma Zonia Bowen, un o sylfaenwyr Merched y Wawr ac a oedd yn Lywydd Anrhydeddus, yn gadael y mudiad oherwydd dadl rhyngddi hi ac aelodau eraill ynglŷn â lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol y mudiad.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Ein Hanes o wefan Merched y Wawr
- ↑ Sefydlu Merched y Wawr o wefan BBC Cymru
- ↑ 3.0 3.1 Llyfrgell Genedlaethol Cymru:Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr) ar wefan Archif Cymru