Aberffraw
Cyfesurynnau: 53°11′17″N 4°27′47″W / 53.188°N 4.463°W
| Aberffraw | |
Eglwys Sant Beuno |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 608 (2001) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH3568 |
| Cymuned | Aberffraw |
| Prif ardal | Sir Fôn |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | TŶ CROES |
| Rhanbarth cod post | LL63 |
| Cod deialu | 01407 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Ynys Môn |
| Cynulliad Cymru | Ynys Môn |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • | |
Mae Aberffraw yn bentref ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, rhwng Rhosneigr a Llangadwaladr, yng ngogledd Cymru. Mae'n cymryd ei enw o Afon Ffraw. Yn Oes y Tywysogion Aberffraw oedd maenor cwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw. Ers cyfnod cynnar iawn roedd yn gartref i brif lys teyrnas Gwynedd, cartref traddodiadol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd.
Cynnwys |
Daearyddiaeth [golygu]
Tarddiad Afon Ffraw yw Llyn Coron, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, ac sy'n rhedeg heibio'r pentref lle ceir pont bwaog a godwyd yn 1731 yn ei chroesi. Bellach mae pont ddiweddarach yn cludo'r A4080 dros yr afon. Mae'r pentref wedi'i leoli ar dir gwastad, tywodlyd braidd, ar lan ogleddol Afon Ffraw. I'r de o'r afon ceir Tywyn Aberffraw. Yr unig adeilad o ddiddordeb heddiw, ar wahân i'r hen bont, yw Eglwys Beuno.
Hanes a thraddodiad [golygu]
Yn Ail Gainc y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr, cynhelir priodas Branwen â Matholwch, brenin Iwerddon, yn Aberffraw.
Aberffraw oedd prif dref cantref Aberffraw a chwmwd Malltraeth. Er mai pentref cymharol fychan yw Aberffraw heddiw, roedd yn bwysig yn yr Oesoedd Canol fel safle prif lys teyrnas Gwynedd. Defnyddiai teyrn Gwynedd yr ystîl (teitl) Tywysog Aberffraw neu Arglwydd Aberffraw. Yr oedd Aberffraw (a Gwynedd) yn un o Dair Talaith Cymru, ynghyd â Mathrafal a Dinefwr.
Nid oes olion o'r llys i'w gweld heddiw. Cafodd ei dinistrio gan y Saeson yn 1283 a defnyddiwyd rhai o'r trawstiau mawr a'r cerrig i godi castell Caernarfon.
Eglwys Beuno [golygu]
Mae tŵr yr eglwys hynafol hon yn dominyddu'r pentref. Fe'i cysegrir i Beuno Sant. Mae ei chynllun corff dwbl yn fwy cyffredin yn Nyffryn Clwyd nag ar yr ynys. Mae'r rhan ddeheuol yn Normanaidd ei phensaernïaeth ac yn dyddio o'r 12fed ganrif. Mae'r porth deheuol yn dyddio o'r 14eg ganrif. Ailadeiladwyd y corff gogleddol yn y 19eg ganrif ar seiliau o'r 16eg ganrif.
Y pentref heddiw [golygu]
Heddiw, mae'n un o'r pentrefi ar Lwybr Arfordirol Ynys Mon. Yn ôl Cyfrifiad 2001, poblogaeth y pentref oedd 599 gyda 79.8% yn siarad Cymraeg. Mae Traeth Aberffraw, neu Draeth Aberffraw, gerllaw, yn draeth llydan, tywodlyd a deniadol gyda golygfa dda dros Eryri.
Enwogion [golygu]
Am y tywysogion a gysylltir ag Aberffraw, gweler Teyrnas Gwynedd.
- William John Griffith (1875 - 1931), awdur straeon byrion am ardal y Berffro.
Atyniadau eraill [golygu]
Nepell o Aberffraw mae Barclodiad y Gawres, carnedd gellog (neu garnedd siambr) gyn-hanesyddol hynod bwysig, ac Eglwys Sant Cwyfan ar Ynys Cribinau sydd wedi'i leoli mewn llecyn anghyffredin iawn.
Cyfeiriadau [golygu]
Gweler hefyd [golygu]
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele