Cadwgan ap Bleddyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tywysog rhan o deyrnas Powys oedd Cadwgan ap Bleddyn (1051-1111).

Bywgraffiad[golygu]

Roedd Cadwgan yn ail fab i frenin Powys a Gwynedd, Bleddyn ap Cynfyn. Pan laddwyd Bleddyn yn 1075, rhannwyd Powys rhwng tri o'i feibion, Cadwgan, Iorwerth a Maredudd. Ceir y cofnod cyntaf am Cadwgan yn 1088, pan ymosododd ar deyrnas Deheubarth, gan orfodi ei brenin, Rhys ap Tewdwr, i ffoi i Iwerddon. Dychwelodd Rhys yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a gorchfygodd fyddin Powys mewn brwydr lle lladwyd dau nai i Gadwgan, Madog a Rhiryd.[1]

Pan laddwyd Rhys ap Tewdwr yn ymladd yn erbyn y Normaniaid yn 1093, ymosododd Cadwgan ar Ddeheubarth, ond erbyn hyn roedd y Normaniaid yn meddiannu'r diriogaeth. Tua'r adeg yma, priododd Cadwgan ferch un o'r arglwyddi Normanaidd, Picot de Sai. Yn 1094 bu brwydr Coed Yspwys. Roedd Bleddyn mewn cynghrair a Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd. Yn 1098, dechreuodd Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer a Hugh o Drefaldwyn, 2il Iarll Amwythig ymgyrch i geisio adennill y tiroedd a gollasant yn y gwrthryfel. Talodd Gruffudd am lynges gan Ddaniaid Dulyn, ond cynigiodd y Normaniaid fwy o arian iddynt a newidiasant eu hochr, gan orfodi Cadwgan a Gruffydd i ffoi i Iwerddon mewn cwch bychan.[2]

Dychwelasant i Gymru y flwyddyn ganlynol, a gallodd Cadwgan adennill rhan o Bowys a Ceredigion, ar yr amod o wneud gwrogaeth i Robert de Bellême, 3ydd Iarll Amwythig. Am gyfnod, gallodd Cadwgan gryfhau ei sefyllfa. Ffraeodd yr Iarll Robert a'r brenin yn 1102, a gorchfygwyd Robert gyda chymorth Iorwerth, brawd Cadwgan. Cymerodd Iorwerth ei frawd arall, Maredudd, yn garcharor a'i drosglwyddo i'r brenin. Roedd Iorwerth wedi cael addewid am rodd o diroedd am wneud hyn, ond rhoddwyd y rhan fwyaf ohonynt i arglwyddi Normanaidd. Gwrthryfelodd Iorwerth yn erbyn y brenin, ac yn 1103 galwyd ef o flaen tribiwnllys brenhinol a'i garcharu. Gadawodd hyn Cadwgan fel rheolwr y cyfan o Bowys nad oedd yn nwylo'r Normaniaid.[3]

Yn 1109, syrthiodd mab Cadwgan, Owain, mewn cariad a Nest ferch Rhys ap Tewdwr, gwraig Gerallt o Benfro (Gerald de Windsor), a thorrodd i mewn i gastell (Cenarth Bychan neu Cilgerran) a'i chipio. Ceisiodd Cadwgan berswadio ei fab i ddychwelyd Nest i'r gŵr, ond methodd. Addawodd justiciar Swydd Amwythig, Richard de Beaumais, diroedd eang yn rhodd i aelodau eraill o dŷ brenhinol Powys petaent yn ymuno mewn ymosodiad ar Gadwgan ac Owain. Meddiannwyd Ceredigion, a ffôdd Owain i Iwerddon; tra gwnaeth Cadwgan gytundeb heddwch a'r brenin na adawodd ond ychydig o diriogaeth yn weddill iddo. Yn ddiweddarach, caniataodd y brenin iddo gael Ceredigion yn ôl ar yr amod ei fod yn talu dirwy o £100 ac yn torri pob cysylltiad ag Owain.[4]

Pan laddwyd ei frawd, Iorwerth, gan Madog ap Rhiryd yn 1111, daeth Cadwgan yn rheolwr Powys oll eto am gyfnod, ond yn ddiweddarach y flwyddyn honno, lladdwyd Cadwgan hefyd gan Fadog yn y Trallwng. Cipiodd Madog rai o'i diroedd, ac etifeddodd Owain y gweddill.[5]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911).
  2. John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911).
  3. John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911).
  4. John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911).
  5. John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911).