Angharad ferch Owain
Oddi ar Wicipedia
Gwraig Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd a mam Owain Gwynedd oedd Angharad ferch Owain (bu farw 1162).
Roedd Angharad yn ferch i Owain ab Edwin ap Gronw, uchelwr pwysig o Degeingl. Priododd Gruffydd tua 1095, pan oedd newydd ddechrau ei ymdrech i adfeddiannu Gwynedd. Cawsant dri mab: Cadwallon ap Gruffudd, Owain Gwynedd a Chadwaladr ap Gruffudd, a phum merch: Gwenllian ferch Gruffudd, a briododd Gruffudd ap Rhys, Marared, Rainillt, Susanna, a briododd Madog ap Maredudd o Bowys, ac Annest.
Ceir canmoliaeth fawr i Angharad yn Historia Gruffud vab Kenan, a gomisiynwyd mae'n debyg yn ystod teyrnasiad ei mab, Owain Gwynedd. Pan fu Angharad farw yn 1162, dywedir i Owain alaru'n ddirfawr amdani.