Madog ap Maredudd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Madog ap Maredudd (bu farw 1160) oedd y brenin olaf i deyrnasu dros y cyfan o Deyrnas Powys. Roedd yn frenin cadarn a lwyddodd i reoli ac amddiffyn Powys am wyth mlynedd ar hugain.

Bywgraffiad[golygu]

Yr oedd Madog yn fab i Faredudd ap Bleddyn ac yn wyr i Fleddyn ap Cynfyn. Roedd yn frawd i Gruffudd ap Maredudd (m. 1128) a Iorwerth Goch. Dilynodd ei dad ar orsedd Powys yn 1132. Yr adeg yma yr oedd brenin Gwynedd, Owain Gwynedd, yn pwyso ar ororau Powys, er bod Madog yn briod a Susanna ferch Gruffudd ap Cynan, wyres Owain. Gwnaeth Madog gynghrair a Ranulf, Iarll Caer, ond llwyddodd Owain i'w gorchfygu a chymeryd tiroedd Iâl oddi wrth Madog.

Yn 1157 pan ymosododd y brenin Harri II o Loegr ar Wynedd cefnogwyd ef gan Madog,a llwyddodd i ad-ennill rhai o'i diroedd.

Bu Madog farw yn 1160, a chladdwyd ef ym Meifod, yn eglwys Sant Tysilio. Rhannwyd ei diroedd rhwng nifer o'i feibion a neiaint. Nid lwyddodd neb i uno'r deyrnas eto a ymrannodd yn Bowys Fadog a Phowys Wenwynwyn.

Plant[golygu]

Noddwr y beirdd[golygu]

Y bardd a gysylltir yn arbennig â Madog ap Maredudd a'i deulu yw Cynddelw Brydydd Mawr (fl. tua 1155 - 1195). Canodd ddwy gerdd i Fadog ei hun, dwy i'w fab Llywelyn a thair i Owain Fychan. Yn ogystal â'r cerddi hyn canodd Cynddelw i lys Madog, ei oesgordd a sawl perthynas iddo. Mae'r gerdd i Efa, ar ffurf arbennig o ganu serch a elwir yn rhieingerdd, yn arbennig o bwysig fel rhagflaenydd i'r canu serch llawn dychymyg a welir yng ngwaith y cywyddwyr. Ymddengys fod Cynddelw wedi treulio cyfnod hir yn llys y brenin ac yn dal tir yn y cyffiniau. Canodd Gwalchmai ap Meilyr ddwy gerdd i Fadog yn ogystal.

Mae'r chwedl fwrlesg Cymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy yn dechrau yn llys Madog ap Maredudd. Mae'n bosibl ei bod wedi'i llunio o fewn cenhedlaeth neu ddwy o farwolaeth Madog gan frodor o Bowys.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • J.E. Lloyd, Hanes Cymru (1911)
  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)