Gruffudd ap Maredudd ap Bleddyn

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd ap Maredudd ap Bleddyn
Bu farw1128 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadMaredudd ap Bleddyn Edit this on Wikidata
MamHunydd ferch Eunydd ap Gwerngwy Edit this on Wikidata
PlantOwain Cyfeiliog, Rhirid Foel ap Gruffudd ap Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn, Margred ferch Gruffudd Edit this on Wikidata

Aelod o deulu brenhinol Powys oedd Gruffudd ap Maredudd (bu farw 1128). Ychydig o wybodaeth sydd gennym amdano, ac mae'n deillio o'r achau yn bennaf.

Roedd Gruffudd yn un o feibion y brenin Maredudd ap Bleddyn (bu farw 1132), ac yn frawd i'r brenin Madog ap Maredudd, y brenin olaf i reoli Powys gyfan. Ei daid oedd Bleddyn ap Cynfyn. Roedd ei frodyr eraill yn cynnwys Iorwerth Goch.

Cafodd ddau fab, o leiaf, sef Owain ('Owain Cyfeiliog') a Meurig.

Bu farw Gruffudd yn 1128, cyn ei dad y brenin Maredudd ap Bleddyn. Pan fu farw'r brenin ei hun yn 1132, etifeddwyd yr orsedd gan Fadog, brawd Gruffudd. Ymranodd teyrnas Powys ar farwolaeth Madog yn 1160. Cafodd Owain Cyfeiliog, fab Gruffudd, arglwyddiaeth Cyfeiliog yn ne Powys, a'i fab ef, Gwenwynwyn, ŵyr Gruffudd, a sefydlodd dywysogaeth Powys Wenwynwyn. Yr olaf o'i ddisgynyddion uniongyrchol ar yr ochr wrywaidd oedd Gruffudd de la Pole (bu farw 1309).

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • R. R. Davies, The Age of Conquest (Rhydychen, 1987), tud. 235. Siart achau.