Powys Wenwynwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Powys Wenwynwyn a Theyrnas Powys.

Yr oedd Powys Wenwynwyn yn dywysogaeth Gymreig a fodolai yn ei therfynnau o ail hanner y 12fed ganrif hyd chwarter cyntaf y 13eg ganrif. Er byrred ei pharhad, chwareai ran bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol.

Yn 1160, ar farwolaeth Madog ap Maredudd, rhanwyd hen deyrnas Powys yn ddwy ran. Etifeddodd un o feibion Madog, Owain Cyfeiliog ran ddeheuol y deyrnas. Cantref Cyfeiliog oedd canolfan ei rym. Ar ei farwolaeth ef pasiodd y dywysogaeth i ddwylo ei fab Gwenwynwyn ab Owain (11951216), a daethpwyd i adnabod y deyrnas fel Powys Wenwynwyn mewn cyferbyniaeth â'r rhan ogleddol, Powys Fadog.

Mathrafal, hen lys brenhinoedd Powys yng nghantref Caereinion, oedd canolfan y dywysogaeth, ond yn ddiweddarach symudwyd y llys i'r Trallwng pan ochrodd Gwenwynwyn â brenin Lloegr. Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond bregus fu ei afael ac am y rhan fwyaf o'r amser bu Powys Wenwynwyn ym meddiant tywysogion Gwynedd. Gyda chwymp Gwynedd yn 1283 nid adferwyd Powys Wenwynwyn, a chael ei hymrannu'n fân aglwyddiaethau neu ddod i feddiant Coron Lloegr fu ei thynged.

Baner Powys Wenwynwyn

Tywysogion[golygu]

Map sy'n dangos ymraniad teyrnas Powys yn 1160 (diweddarach yw'r siroedd)

Cantrefi a chymydau[golygu]


Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.