Gruffudd ap Gwenwynwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tywysog Powys Wenwynwyn oedd Gruffydd ap Gwenwynwyn (bu farw tua 1286).

Bywgraffiad[golygu]

Roedd Gruffudd yn fab i Gwenwynwyn ab Owain a Margaret Corbet. Pan oedd yn blentyn, gyrrwyd ei dad o'i dywysogaeth gan Llywelyn Fawr, a bu farw yn Lloegr yn 1216. Treuliodd Gruffudd ei ieuenctid yn Lloegr. Wedi marwolaeth Llywelyn, bu raid i Dafydd ap Llywelyn ddod i gytundeb a Harri III, brenin Lloegr yn 1241. Dan delerau'r cytundeb yma, derbyniodd Gruffudd y rhan fwyaf o'r tiroedd fu'n eiddo ei dad, gan wneud gwrogaeth i Harri amdanynt. Tua'r adeg yma, priododd Hawise, merch John Lestrange o Knockin.

Pan ddechreuodd Llywelyn ap Gruffudd ymestyn ei awdurdod yng Nghymru wedi 1255, parhaodd Gruffudd yn gefnogol i goron Lloegr, ac yn 1257 gyrrwyd ef o'i deyrnas eto. Yn 1263 cytunodd i drosglwyddo ei wrogaeth i Lywelyn, dan y bygythiad y byddai'n colli ei diroedd yn barhaol os na wnai, a chadarnhawyd hyn yng Nghytundeb Trefaldwyn yn 1267.

Bu raid iddo ffoi i Loegr eto wedi cynllwyn i lofruddio Llywelyn yn 1274. Wedi rhyfel 1277, pan orfodwyd LLywelyn i ildio ei diroedd tu allan i Wynedd dan delerau Cytundeb Aberconwy, cafodd Gruffudd ei diroedd yn ôl eto. Cefnododd Gruffudd Edward I, brenin Lloegr yn rhyfel 1282, er ei fod yn hen ŵr erbyn hyn.

Ar ddiwedd y rhyfel, gwnaed i ffwrdd a thywysogaeth Powys-Wenwynwyn, a daeth y teulu yn un o arglwyddi'r gororau, gan fabwysiadu'r cyfenw de la Pole, ar ôl eu prif ganolfan Poole (Y Trallwng, "Welshpool" yn Saesneg heddiw). O 1283 ymlaen, ymddengys mai ei fab, Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn neu Owen de la Pole, oedd yn rhedeg ei arglwyddiaeth. Bu farw Gruffudd rywbryd rhwng Chwefror 1286 a diwedd 1287.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig
  • Kari Maund (2006) The Welsh kings: warriors, warlords and princes (Tempus) ISBN 0-7524-2973-6