Arwystli Is Coed

Oddi ar Wicipedia
Arwystli Is Coed
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Powys Edit this on Wikidata
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaArwystli Uwch Coed, Cedewain, Ceri, Maelienydd, Gwerthrynion Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5215°N 3.4224°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd yn ne-orllewin Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) oedd Arwystli Is Coed (neu Arwystli Iscoed). Gyda'i gymydog i'r gorllewin, Arwystli Uwch Coed, roedd yn un o ddau gwmwd cantref Arwystli.

Gorweddai'r cwmwd yn y bryniau isel i'r gorllewin o'r Drenewydd. Ffiniai â chantref Cedewain i'r dwyrain, rhannau o Ceri, Maelienydd, a Gwrtheyrnion i'r de, Arwystli Uwch Coed i'r gorllewin, a chantref Cyfeiliog a rhan fach o gantref Caereinion i'r gogledd.

Caersŵs oedd prif ganolfan weinyddol y cwmwd. Roedd Llangurig yn ganolfan eglwysig o bwys. Yn ddiweddarach, yn yr Oesoedd Canol Diweddar, daeth Trefeglwys yn enwog am y Grog o'r Iesu rwymedig yn yr eglwys, a foliwyd gan Siôn Ceri ac mewn cywydd gan awdur anhysbys a dadogir ar Siôn Cent.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Apocryffa Siôn Cent, gol. M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2004), cerdd 1