Tysilio
Oddi ar Wicipedia
Sant Cymreig o'r 7fed ganrif oedd Tysilio. Yn ôl traddodiad roedd yn un o feibion Brochwel Ysgithrog, brenin Teyrnas Powys.
Dywedi iddo ddod yn ddisgybl i Gwyddfarch, abad cyntaf Meifod. Dilynodd Gwyddfarch fel abad yma, a daeth Meifod yn brif ganolfan grefyddol Powys. Ei ddydd gŵyl yw 8 Tachwedd. Canodd Cynddelw Brydydd Mawr awdl foliant iddo yn y 12fed ganrif.
Enwir Ynys Dysilio yn Afon Menai ger Porthaethwy ar ei ôl, a chysegrir yr eglwys fechan ar yr ynys iddo; mae'n rhan o blwyf eglwysig Llandysilio. Yn ôl traddodiad roedd gan y sant gell feudwy ar yr ynys. Cysegrwyd eglwysi Meifod a Llangamarch iddo. Mae lleoedd yn dwyn ei enw yn cynnwys:
- Llandysilio, Sir Benfro
- Llandysilio, Powys
- Llandysilio-yn-Iâl, Sir Ddinbych
- Llandysiliogogo, Ceredigion
- Llandysilio, Ynys Môn