Llywelyn ap Madog

Oddi ar Wicipedia
Llywelyn ap Madog
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
Bu farw1160 Edit this on Wikidata
TadMadog ap Maredudd Edit this on Wikidata
MamSiwsana ferch Gruffudd Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Llywelyn ap Madog, Esgob Llanelwy.

Llywelyn ap Madog (m. 1160) oedd mab hynaf ac etifedd y tywysog Madog ap Maredudd o Bowys.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn a wyddys amadano. Bu farw mewn brwydr yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1160.

Ceir dwy gerdd o foliant i Lywelyn ap Madog a briodolir i Llywarch y Nam a Llywarch Llaety (fl. 1160 ill dau). Cerdd i ddiolch i Lywelyn ap Madog am rodd o gŵn hela mewn cyfres o englynion yw'r testun a briodolir i Lywarch y Nam. Mae cerdd Llywarch Llaety yn anfon march i ofyn cyfres o gwestiynau rhethregol am filwriaeth Llywelyn. Yn anffodus nid yw'r cerddi yn ychwanegu llawer at ein gwybodaeth am Lywelyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Llywarch y Nam' a 'Gwaith Llywarch Llaety', yn Kathleen A. Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion.'